PRIODAS.

Dydd Iau diweddaf, yng nghapel Ala Road, Pwllheli, gan y Parch. William Jones, M. A. Foucrosses, yn cael ei gynorthwyo gan y Parchn. O. Pritchard, T. Miles Jones, a'r Athro Archibald Davies, B. D. unwyd y Parch. Hugh Lewis Jones, Nerquis, mewn priodas â Miss Rowena Jones, Bron y Maes, Nefyn.

Gwasanaethid ar y priodfab gan ei frawd, Mr Robt. Jones, ac ar y briodferch gan ei chyfnither, Miss Lora Jones, Fourcrosses.

Yr Udgorn 18/08/1915


PRI0DAS.

Gwawriodd bore lau, Awst 12fed mewn sirioldeb hafaidd; a'r bryniau a'r dolydd yn ymloewi mewn heulwen a thes. Canai yr awel ei halawon cyfarchiadol, ac yr oedd natur yn gwlawio bendithion i goroni'r dydd. Anodd fuasai cael gwell diwnod i rwymo deuddyn, gan fod yma ryw gydgord perffaith yn yr "amen" a roddai natur i'r gwaith.

Yr oedd Bronymaes, Nefyn, a Pant Lon, Morfa Nefyn dan gynhyrfiad boreu y diwinod hwn. Tua, deg o'r gloch, gwelid dau gerbyd hardd yn hwylio tua, PhwIIheli ar hyd un o'r ffyrdd prydferthaf yng Nghymru. Yr oedd yr olgfa yn odidog. Weithiau aem ar hyd ffordd agored, ddigysgod, bryd arall trwy goed tewfrig, a'r rhai hyny yn moes ymgrymu yn fawreddog. Yn y cerbyd eisteddai y Parch H. Lewis Jones, gweinidog parchus y M.C. yn Nerquis, a hawdd ydoedd canfod oddiwrth ei wedd a'i ddull, mae'r priodfab ydoedd. Yn y cerbyd arall eisteddai Miss Rowena, Jones, Bron y maes. Nefyn, un o rianod teca'r fro. Wrth ei gweled hi, nid oedd raid i neb ofyn pwy oedd y briodasferch, gan fod sirioldeb bore'r briodas yn chwareu yn ei llygaid.

Tuag un-ar-ddeg o'r gloch, cyrhaeddwyd Capel Ala Road, Pwllheli. Tawel ydoedd yno; dim ond ychydig gyfeillion a gwahoddedigion wedi ymgasglu ynghyd.

Eisteddodd y priodfab, ac yn fuan gwelid y briodasferch yn dyfod i mewn gyda'i brawd, a rhyw wyleidddra boneddigaidd yn argraffiad ar ei gwedd. Tra y safai y ddau wrth yr allor, anhawdd fuasai cael olygfa brydferthach. Darllenwyd y rhannau arweiniol o'r gwasanaeth gan y Parch Owen Pritchard, Nefyn. ac aed trwy y seremoni briodasol gan y Parch W. Jones, M.A., Fourcrosses, ewythr y briodasferch. Tra darllenwyd rhannau o'r Ysgrythvr gan y Parch. W. ArchibaM Davies, M.A. B.D., Hackney College, Llundain ac offrymwyd y weddi gan y Parch T. Miles Jones, Treuddyn, cyfaill mynwesol i'r priodfab, a chymydog agos iddo.

Y gwas priodas ydoedd Mr, Robert Jones, brawd y priodfab, yr hwn a wnaeth holl waith y swydd gydag urddas. Gwasanaethwyd ar y briodasferch gan ei chyfnither, Miss Lora N. Jones, Fourcrosses.

Wedi'r gwasanaeth, aed i Westy yr Eifl, lle yr oedd boreubryd chwaethus wedi ei baratoi. Eisteddodd tuag ugain wrth y 'bwrdd, a chafwyd amser difyr dros ben. Caed. anerchiadau gan. bawb yno a berthynai i swydd Aaron, sef gan y Parchn. W. Jones. M.A., Proff. W. A. Davies, M.A., B.D.. cydfrawd- yng-nghyfraith a'r priodfab; T Miles Jones, ac Owen Pritchard.

Dymunai yr oll yn dda i Mr. Jones a'i briod gan obeithio am fendith y nefoedd ar eu huniad. Y mae Mr. Jones yn adnabyddus fel pregethwr galluog a huawdl, ac yn fawr ei barch yng nghylchoedd Sir Fflint, a rhanau eraill o Ogledd Cymru. Gobeithiwn cant oes o hapusrwydd a defnyddioldeb. Cafwyd gair hefyd yn ddoeth a phwrpasol gan dad y priodfab, Mr. Robert Jones, Pant Lon.

Ar ôl y wledd ymadawodd y par ieuanc am y Bala, i dreulio eu melrawd; ynghanol dymuniadau da eu cyfeillion lluosg.

Yr Herald Gymraeg 24/08/1915