LLYS YR YNADON.
Dydd Mercher. Gerbron Dr. S. W. Griffith, Mri. W. W. Griffith, a J. Hughes Parry.Creulondeb at Gi.
Cyhuddwyd Robert Jones, Bryngoleu, Nefyn (teiliwr), a Griffith Roberts (cariwr), Nefyn, gan yr Arolygydd Snelling o arfer creulondeb at gi.Tystiai yr Heddwas Thomas iddo weled y ci yn cael ei lusgo y tu ôl i gerbyd Griffith Roberts ar y ffordd i Bwllheli ar Mehefin 9fed. Yr oedd wedi ei rwymo gyda rhaff tua llathen o hyd. Yr oedd ei draed yn gwaedu, ac nis gallai brin sefyll pan stopiodd y cerbyd. Yr oedd gwaed ar y ffordd, a phan alwodd sylw Roberts ato, dywedodd
Nid oes dim a wnelwyf a'r ci Robert Jones, Nefyn, yw y perchenog, a dylasai ei ollwng yn rhydd. Rhoed tystiolaeth gyffelyb gan y Rhingyll Lloyd.
Dywedai Richard Jones, Pwllheli, mai efe oedd perchenog y ci. Anfonodd ef i Robert Jones, Nefyn, dair wythnos yn ôl, a dychwelwyd ef iddo ar Mehefin 9fed yn y cyflwr a ddisgrifiwyd gan yr Heddwas. Yr oedd ei draed yn friwiau dolurus. Dywedai yr Arolygydd Snelling fod croen traed y ci wedi ei grafu ymaith, ac yr oedd amryw friwiau arno. Dywedai y diffynyddion nad oedd ganddynt fwriad i arfer creulondeb at yr anifail, a datganent eu gofid am a ddigwyddodd.
Dirwywyd Robert Jones i 30s., a Griffith Roberts i 20S.