Ynadlys Pwllheli.
Cynhaliwyd dydd Mercher gerbron Mri J. G. Jones (cadeirydd), Maurice Jones, J. Hughes Parry, W. Thomas, a Dr. S. W. Griffith.Y SWYDDOG A'I WRAIG.
Ymddangosodd Mr E. R. Davies ar ran Mrs Selina Parry, Mariah Terrace, Nefyn, i ofyn am archeb. i orfodi ei gŵr, Lifftenant Parry, R.F.C., Salisbury, i dalu at ei chynal.Dywedodd Mr. Davies eu bod wedi priodi yn Hydref, 1917, ac ni chafodd ond 5p. unwaith at ei chynal. Yr oedd yn wael ei hiechyd ac yn byw gyda'i rhieni yn Nefyn.
Cytunodd y diffynydd mewn llythyr i dalu 25s. yr wythnos at ei chadw, a gwnaed archeb am y swm hwnw ynghyd a'r costau cyfreithiol.