TYDWEILIOG MARW.

Dydd Mawrth (5ed cyf.) bu farw Mr. Richard Davies, Weirglawdd Fawr. Cafodd gystudd lled faith, er nad oedd yn boenus, ond yn graddol ymadael megys.

Gŵr cymdeithasol iawn ydoedd, diddan a chymeradwy iawn, heb elyn o gwbl iddo, ni a gredwn, er ei fod yn 74 mlwydd oed. Yr oedd yn bur, hoenus, a diwyd iawn hyd yn ddiweddar iawn. Mor agos yr aeth gyda'i frawd-yng-nghyfraith, Capten Owen, Minafon. Bu'r ddau yn cydfordeithio llawer flynyddau yn ôl. Yr oedd y ddau yn ffyddlon iawn gyda chrefydd tra y gallasant, er fod ganddynt tua milltir o ffordd i'r capel. Byddent yn gyson yn y capel ar bob tywydd. Bydd yn chwith ar eu hol.

Yr oedd Mr. Davies ers amser yn methu mentro ymlaen yn gyhoeddus ar ôl y ddamwein a gafodd fisoedd lawer yn ôl a dichon mai nid damwain ydoedd. Cred llawer mai'r parlys a gafodd y pryd hynny.

Cydymdeimlir a'i weddw, a'i ferch-yng-nghyfraith, hithau'n weddw hefyd.

Yr Herald Gymraeg 12/08/1919