TYDWEILIOG.
Am hanner awr wedi wyth fore'r Sulgwyn, bu farw Capt. Thomas Owen, F.R.G.S., Minafon, yn ei breswylfod, wedi dioddef cystudd trwm a chaled iawn yn 72 mlwydd oed.Claddwyd ef ym Mynwent Eglwys St. Cwyfan, ddydd Mercher, pryd y gwasanaethwyd yn y tŷ gan y Parch. J. W. Jones, B.A. (gweinidog) trwy ddarllen Dameg y Deng Morwyn, a chanwyd yr emyn "Ar fôr tymhestlog teithio 'rwyf," etc., ei hoff fyfyrdod, a gweddiwyd gan y Parch. Thomas Roberts, Tynllan, a'r Parch. O. Thomas, Ficer. yn yr eglwys. Angladd anghyhoedd ydoedd.
Teimlwn yn awr fod "bwlch yn y mur." Blaenor yn blaenori ydoedd. Yr ydoedd popeth crefydd, yn allanol a mewnol, yn gyntaf ganddo. Yr oedd yn ffyddlon yn ei "holl dŷ," ac yn selog iawn gyda'r Ysgol Sul, a mynodd gael cadw cofnodion manwl trwy gael llyfr i'r arolygwr yn y flwyddyn 1888, a gresyn fod rhywun wedi cadw'r llyfr hwnnw, nas gellir cael gafael arno yn awr. Yr oedd yn arolygydd ac athraw llafurus, ac yn arholydd ar ddiwedd yr ysgol, dawn sydd yn colli yn awr. Yr oedd yn ffyddlon ymhob cyfarfod. Poenai lawer fod y seiat a'r cyfarfod gweddi mor ddilewyrch.
Nid ydym yn cofio ei dderbyn yn aelod o'r eglwys. Yr ydym yn cofio (ag eithro tri) heb y meibion sydd yn perthyn i'r eglwys, naill o ardal arall neu yn dod iddi mewn oed. Y wraig a'r plant yn unig oedd o'r holl ffermydd 40 mlynedd yn ôl, gydag ychvdig o eithriadau—"pobl druain dlodion" ydir addewidion yn y Gair, nid llawer o'r lleill. Ar y tir yna—yr hynaf yn yr eglwys, yr oedd ganddo fwy o brofiad yr hen seiadau. Nid oedd yn ail i neb o'r bobl ieuainc am ei sel dros y gymanfa ganu, a chwith meddwl am ei "Ie nid edwyn mwy ohonno" ynddi.
Bu'n anfon i ni daflenni cymanfaoedd o Dde-heudir Cymru a lleoedd eraill, ac yn ceisio gennym gael tonau i'n taflen oedd wedi ei gyffwrdd ef yn neilltuol, a chafodd ei ddymuniad droion, a hynny am ei fod yn reddfol yn adnabod ac yn deall yr emyndon wir dda. Synem ato yn hoffi "St. Catherine" a "Duw Mawr y rhyfeddodau maith." Nid oedd yn meddwl dim o "Huddersfield" ac ar ei gais ef yr ydym yn Tydweiliog wedi newid ei mynegiant ar y ddwy linell olaf, sef eu canu yn gryf yn y dechreu—yn lle graddol gryrhau, ef yn lle cres—gofyn yn bendant. Pa Dduw ?"
A fuasai gennym offeryn cerdd yn y capel, ac un arall ar ôl hynny yn y festri? A fuasai gennym festri onibai am ei sel ef? A fuasai y ddyled wedi ei chlirio? Amheuwn yn fawr. "Farmers always complain." ebe'r Sais, ac y mae'r rhan fwyaf ohonom yn digaloni i wynebu oostau, er mewn awydd mawr am lawer o bethau. Credwn mai byw hebddynt yw'r unig ffordd i gael cymydogaeth dda. Ond mentrai ef y gwawd a'r dirmyg, a chlywsom ef yn dweyd droion i'n calonogi "fod yn rhaid i bawb wnaiff rywbeth yn gyhoeddus mewn byd ac eglwys wneyd ei feddwl i fyny i ddioddef gwawd." Ac fe fu hynny yn nerth inni droion.
Dywedodd un brawd pan glywodd fod y cyfarfod llenyddol yn golled ariannol, "Pan mai ni oedd eisieu y cyfarfod, mai ni ddylai dalu am dano." A allwn ni ddal hyd y diwedd sydd gwestiwn priodol. Ond daliodd ef i'r diwedd yn ffyddlon i'r Cyfundeb i eglwys a'i Geidwad, ni gredwn yn sicr.
Heddwch i'w lwch.
Cydymdeimlwn a'i weddw ei ddwy chwaer, a'r perthynasau i gyd.