MARWOLAETH DRIST.

Mae genym yr wythnos hon y gorchwyl prudd o gofnodi marwolaeth adfydus y cymeriad tawel Mr Watkin Williams, Saer Coed, Ala Road, yr hyn a ddigwyddodd foreu Mercher diweddaf.

Ymddengys ddarfod iddo gael ei daro yn hynod wael nos Lun tra yn yr iard nes colli ei ymwybyddiaeth yn llwyr, a bu allan o ganlyniad trwy y nos yn nghanol y gwynt a'r gwlaw dychrynllyd a ymarllwysai mor ddidrugaredd. Darganfyddwyd ef y boreu dilynol gan ddyn ieuanc, ac aethpwyd ag ef i dy perthynas iddo, a bu farw fel y dywedwyd foreu Merchef heb ddod i'w ymwybyddiaeth o gwbl.

Gan na ddychwelodd i'w gartref i Ty'r Ynn, Penrhos, nos Lun, oherwydd gerwinder yr ystorm, aed yn bryderus yn ei gylch, a meddylid ei fod wedi aros yn nhy perthynas iddo yn y dref am ei bod yn noson mor fawr, onide buasid wedi gwneud ymchwiliadau manylach yn ei gylch.

Yr oedd yr ymadawedig yn gymeriad cryf ac addfwyn o ysbryd, ac yr oedd trwy ei alwedigaeth yn dra hysbys trwy y wlad. Hoffid ef yn fawr gan y rhai a ddeuai i gysylltiad masnachol ag ef, a choleddid ganddynt syniadau uchel am ei onestrwydd a'i ddidwylledd. Rhoed ei weddillion marwol i orffwys yn mynwent Penrhos ddydd Sadwrn diweddaf.

Cydymdeimlwn a'i frodyr a'i chwiorydd yn ngwyneb chwerwder yr amgylchiad a'u goddiweddwyd mor sydyn.

Yr Udgorn 05/09/1917