LLYS YNADON PWLLHELI. CYHUDDIAD O YMOSOD.

Cynhaliwyd yr uchod dydd Mercher, gerbron Mri. J. Griffith Jones, yn y gadair G. Hughes Roberts, Griffith Evans, a Dr. S. W., Griffith.

Taflu Achos Allan.

Cyhuddodd Griffith Evans, Penygroes, W. Williams a Thomas Williams, Penyberth, Penrhos, o ymosod arno.

Ymddangosodd Mr. Caradog Daries ar ran yr achwynydd, a dywedodd fod Griffith Evans yn dad i James Evans, yr hwn a gyhuddai William Williams, yn y llys blaenorol, o ymosod arno, a T. Williams, o fygwth ymosod arno. Dirwywyd y naill a rhwymwyd y llall i gadw yr heddwch am chwe' mis.

Ar Medi 24ain yr oedd Griffith Erans yn yr ardd wrth ei dŷ, tua 9.30 y nos. Oddi yno gwelai dri o fechgyn yn dyfod i fyny Allt Penrhos, ac yn troi i gyfeiriad Gellidara. Yr oedd dau ar y bisycl, a'r llall ar y step. Wedi cyrhaedd y groelon ger y tŷ arosodd y bechgyn ychydig. Yn fuan clywodd waeddi, rhedodd yntau i'r ffordd i edrych beth oedd yr helynt, ac yno gwelai y ddau ddiffynydd gydag un arall. Gofynodd beth oedd y mater, ac ar hyny tarawyd yr achwynydd yn y modd mwyaf creulawn.

Honai yr achwynydd fod y dynion wedi ymosod arno o herwydd yr helynt gyda'r mab.

Tystiodd Griffith Evans ei fod yn yr ardd fel y dywedodd ei gyfreithiwr, ac iddo glywed gwaeddi ar y ffordd, ac iddo yntau fyned yno. Gwelodd y ddau ddiffynydd yno. Adnabu hwy trwy gymorth goleuni eu bisycls. Yr oedd yn berffaith sicr ohonynt. Ni wnaeth ond gofyn beth oedd yr helynt, pryd y tarawodd un o'r dynion ef nes yr oedd ar lawr, a daeth y llall ato gan roddi ei fysedd yn ei lygaid a'i anafu yn ofnadwy. Gwadodd y ddau iddynt ymosod arno, ac nad oeddynt yn agos i'r lle.

Dywedodd T. Williams ei fod yn Rhydyclafdy tua 9.30. Gofynodd W. Williams i'r achwynydd ddyweyd beth oedd ganddo amdano.

Yr achwynydd: Cot frown.

Y diffynydd: Nid oes genyf yr un.

Tystiodd yr Uwch-arolygydd Owen, i'r achwynydd ddyfod ato dranoeth, a golwg garw arno, ac yn ymddangos fel pe bai rhywun wedi ymosod yn greulawn arno.

Tystiodd John Owen ei fod yn was yn Erw Wen, a'i fod yn dychwelyd o Bwlllheli noson y ffair, gyda gwas Tyddyn Llywelyn a gwas Gellidara. Yr oedd tua 9.30 pan gyrhaeddasant y groeslon ar eu bisyclau. Yno safasant gan bwyso ar y bisyclau. Daeth tri o ddynion i fyny, ac aeth un at was Gellidara, gan ofyn iddo godi i fyny oddi ar y clawdd, ac am na wnai tarawodd ef. Daeth un ohonynt ato ef gan fflachip goleu yn ei wyneb. Yr oedd ef yn sefyll ar ganol y ffordd, gan bwyso ar y bisycl. Tarawyd yntau yn ei frest, nes y syrthiodd ar draws y bisycl. Ceisiodd godi, ond tarawyd ef drachefn. Gwaeddodd am help, a daeth Griffith Evans yno, a gofynodd beth oedd yn bod. Nid oedd yn adnabod yr un o'r dynion.

Dywedodd Tecwyn Williams, Tyddyn Llywelyn, ei fod gyda'r tyst blaenorol, ac i'r dynion ymosod ar Evan Hughes a John Owen. Nid oedd yn eu hadnabod.

Tystiodd Thomas Williams ei fod ef a William Williams yn Rhydyclafdy y noson dan sylw, o 9.15 p.m. hyd 9.45 p.m., ac yr oeddynt adref yn Penyberth erbyn 10 o'r gloch. Ni welsant yr achwynydd o gwbl y noson hono.

Mewn attebiad i Mr. Caradog Davies dywedodd y ddau nad oeddynt wedi, bod yn y ffair, a'u bod wedi bod wrthi'n cario yd hyd naw o'r gloch.

Pa'm y mae Griffith Evans yn dyweyd mai chwi ill dau a ymosododd arno ?

Thos. Williams : Nid wyf yn gwybod, ond nid y ni ymosododd.

Ffordd yr aethoch i Rhydyclafdy? - Heibio Bwlchygroes, a daethom yn ôl i'r un ffordd, a gall ein meistr, Foulkes Griffith, dystio ein bod adref tua 10 o'r gloch. Nid oedd gan yr un o honynt fisycl.

Yr ydych yn gwybod fod gan Griffith Evans fab yn Gellidara? - Ydym.

A ydych yn sicr nad heibio Gellidara yr aethoch adref ? - Ni fuom erioed y ffordd hono i Rydyclafdy.

Meddwl a wnaethoch mai un o fechgyn Griffith Evans oedd un o'r bechgyn? - Dim o'r fath beth. Ni welsom ac ni wyddom ddim am y bechgyn.

Lle y buoch yn Rhydyclafdy ? - Yn Tu- hwnt-i'r-afon, a buom yno o chwarter wedi naw hyd chwarter i ddeg.

Pwy oedd yno ? - Y gwr. Wedi myned yno i nol tybaco yr oeddym, wrth fod y siopau wedi cau. Ni fu yr un o'r gweision yn y dref ddiwrnod y ffair. Dywed Griffith Evans ei fod wedi eich ad- nabod trwy gymmhorth goleuni lamp y bisycl.

Yr ydych yn ei adnabod ? - Ydym.

Peth rhyfedd iddo fethu eich adnabod, ac yntau yn eich gweled mor aml? - Y mae wedi methu y tro yma beth bynag.

Tystiodd Mr. Foulkes Griffiths, Penyberth, fod y dynion yn y huarth tua naw o'r gloch, ac iddo eu gweled drachefn tua 10, wedi dychwelyd o Rhydyclafdy. Nid oedd yntau na'r un o'r gweision wedi bod yn y ffair. Yr oedd wedi bod wrthi trwy y dydd yn cario'r yd. Yr oedd yn sicr na buont yn cario yd ddydd Mawrth na dydd lau. Buont yn cario hyd saith o'r gloch. Yr oedd y bechgyn yn gweithio hyd naw. Cawsant eu swper cydrhwng wyth a naw o'r gloch. Gallai fod y cloc chwarter awr yn fuan. Ni allai roddi ei air am yr awr y buont oddi yno.

Tystiodd William Jones. Tu-hwnt-i'r-afon Arms, fod y bechgyn wedi bod yn y tŷ o 9.15 i 9.45. Yr oedd dau arall yn y tŷ o'u blaen, ac aethant allan rhyw hanner awr o flaen y ddau ddiffynydd.

Mr. Davies : Pwy oedd y ddau arall?

Y tyst : Nid wvf am eu henwi os caf beidio.

Mr. Davies : Y mae arnaf eisieu eu henwau gellwch eu hysgrifenu ar bapur. Yna estynwyd papur i'r tyst, ac ysgrifenodd yr enwau.

Tystiodd Owen Williams fod y ddau yn eu gwelyau cyn 11eg.

Ymneillduodd yr ynadon, ac wedi ymgynghoriad hysbysodd y cadeirydd fod y tystiolaethau mor gymmysglyd fel nad allent gospi ac o herwydd hyny taflent yr achos allan.

Yr Herald Gymraeg 01/04/1919