YNADLYS PWLLHELI.
Cynhaliwyd yr uchod, ddydd Mercher, Mr J G. Jones yn y gadair. Yr oedd hefyd yn bresennol Mri J. Hughes Parry, Maurice Jones, Dr. J. W. Rowlands a Griffith Evans.SAETHU HWYADEN WYLLT.
Cyhuddai Mr. Endaf Robyns Owen, Erw Wen, David Jones Griffiths, Castell, Penrhos, a Robert O. Evans, Tanybwlch, Penrhos, o fod ar dir Penyberth, mewn ymchwil am helwriaeth.Ymddangosodd Mr. W. Cradoc Davies ar ran yr erlynydd, a Mr. J. B. Allanson, Caernarfon, ar ran y diffynyddion.
Dywedodd Mr. Davies fod yr erlynydd wedi gweled y diffynyddion yn Morfa Penyberth, ar Tachwedd 27ain, ac wedi eu clywed yn gollwng ergyd ddwy waith. Yr oedd yno dri ohonynt, ond diangodd un ohonynt ymaith cyn iddo ei adnabod.
Tystiodd Mr. William Jones, Plasybryn, mai ef oedd perchenog fferm Penyberth, ac na roddodd ganiatad i'r diffynyddion i fyned i saethu ar y tir.
Mr. Allanson : Mae yno gyflawnder o hwyaid gwylltion at y tir, onid oes.
Y Tyst : Oes. Mr. Davies : Ac y mae yno ddigon o game hefyd.
Tystiodd Mr. E. Robyns Owen ei fod ef yn dal yr hawl i'r game ar dir Penyberth. Bu iddo weled y diffynyddion ar y tir, ac aeth atynt. Bu raid iddo ymlusgo am bellter mawr rhag iddynt ei weled. Yr oedd yno dri ohonynt, ac yr oedd yn eu hymyl cyn iddo eu gweled. Clywodd hwy yn saethu pan oedd tua hanner y ffordd yno.
Mr. Davies : Bu i chwi felly ddal y diffynydd Griffiths ar unwaith.
Mr. Owen : Do, ond yr oedd arnaf eisieu dal mwy nag un ohonynt, a rhedais ar ôl y llall (chwerthin). Ategodd fod un ohonynt wedi cyfeirio'r gwn ato a bygwth ymladd ag ef, ond aeth ef ymaith ar ôl ei adnabod. Dywedodd un ohonynt ei fod wedi bod yn ymladd dros ei wlad a rhywbeth felly, ond ni wnaeth ef sylw ohono. Yr oedd, yno le rhagorol am sport o bob math yn tir.
Mr. Allanson : A ydwyf i gasglu oddiwrth eich dull o geisio dal y diffynyddion eich bod wedi cael profiad fel heddwas arbennig?
Mr. Owen : Nis gwn beth ydych yn ei feddwl.
Mr. Allanson : Yr wyf yn meddwl yr hyn a ofynaf. A fuoch chwi neu na fuoch yn heddwas arbennig?
Mr. Owen : Yr ydych yn gwybod yn iawn nad ydwyf?
Mr. Allanson : Sut y gwn i. Welais i mohonoch yn fy mywyd o'r blaen (chwerthin). Ond yr oedd arnaf eisiau rhyw eglurhad ar eich gwaith yn ymlusgo trwy y dwfr a'r mwd i geisio dal troseddwyr yn y modd yma. Beth oedd yn eich cymell i fyned i'r fath drafferth ?
Mr. Owen : Wel, yr oeddwn wedi blino arnynt yn trespasu, ac yn hela ar fy nhir, ac yr oedd arnaf eisiau terfyn ar y peth. Yr wyf wedi bod yn y Castell yn cwyno oherwydd y peth.
Mr. Allanson : A oes genych weithredoedd yn trosglwyddo'r hawl i ddal helwriaeth ar y tir yma i chwi?
Mr. Owen : Y mae gennyf receipts yn dangos fy mod wedi talu am dano.
Mr. Allanson : Ac yn eich barn chwi y mae hynny yn ddigon o brawf?
Mr. Owen : Ydyw.
Mr. Allanson : Wel, nid wyf fi o'r un farm a chwi. A fu i chwi ddal ffesant ar y tir yma erioed?
Mr. Owen : Do wrth gwrs.
Mr. Allanson : Mae yma gyflawnder o hwyaid gwylltion yn y lle yma?
Mr. Owen : Oes, a phob peth arall hefyd.
Mr. Allanson : Mae synwyr cyffredin yn dweyd mai lle am hwyaid gwylltion ydyw hwn. A ddaliasoch chwi ysgyfarnog yma erioed?
Mr. Owen : Naddo.
Mr. Allanson : Wel, y mae ysgyfarnog yn rhywbeth.
Mr. Owen : Nac ydyw, anifail ydyw (chwerthin).
Mr. Allanson: O'r goreu, anifail ynte.
Mewn atebiad i gwestiynau pellach dywedodd Mr. Owen fod yn naturiol fod drwg deimladau wedi codi yng nglyn a'r achos.
Mr. Allanson : Ac yr ydych yn sicr o'r amser?
Mr. Owen : Nac ydwyf.
Mr. Allanson : A fu i chwi edrych ar eich watch?
Mr. Owen : Naddo.
Mr. Allanson: Sut hynny a'r amser mor bwysig?
Mr. Owen : Yr oeddwn yn rhy excited ?
Mr. Allanson : Buaswn yn meddwl y buasech reit hunan-feddiannol ar ôl ymlusgo trwy y fath ddwfr (chwerthin).
Dywedodd Mr. Allanson mewn amddiffyniad na buasai ef wedi ymgymeryd a'r achos onibai fod y diffynyddion yn ddau ddyn ieuanc parchus a dymunol, ac yn cael eu camgyhuddo. Yr oedd un wedi gwasanaethu ei wlad drwy'r rhyfel a'r llall wedi bod yn garcharor yn yr Almaen. Nid oeddynt y math o ddynion a fuasid yn ddisgwyl eu gweled yn cael eu cyhuddo o herwhela. Er hynny yr oeddynt yn cael eu cyhuddo dan un o'r deddfau llymaf, yr hon oedd yn darparu y gellid eu carcharu am dymor os y ceid hwy yn euog. Yr oedd gan y diffynyddion hawl i ddal cwningod yn y tir ar y terfyn, ac yr oeddynt allan yn ffureta y dydd dan sylw. Yr oedd yno gyflawnder o hwyaid gwylltion yn y lle, a bu i'r diffynyddion saethu un o honynt yr hon a ddisgynodd yn nhir yr erlynydd. Rhoddasant eu gynau ar y clawdd, ac aethant drosodd i chwilio am y hwyaden.
Cadarnhai David Jones Griffiths (diffynydd) yr hyn a ddywedodd y cyfreithiwr. Dywedodd ar ei lw nad aeth ar y tir i chwilio am game. Mewn atebiad i Mr.Davies, dywedodd ei fod yn dra hoff o saethu ond ni bu iddo erioed saethu game. Ni bu'n saethu ar dir Penyberth o gwbl y dydd dan sylw.
Ni bu Mr Owen yn siarad ag ef y Prydnawn dan sylw. Nis gwelodd ef o gwbl.
Yr oedd yn sicr nad oedd y gynnau ganddynt pan aethant i chwilio am yr hwyaden i dir Penyberth.
Rhoed tystiolaeth gyffelyb gan y diffynydd Robert O. Evans, a phan oedd ef ar y canol awgrymodd y Clarc i'r Fainc nad oedd tystiolaeth o gwbl fod y diffynyddion wedi myned ar y tir i chwilio am helwriaeth.
Sylwodd Mr. Cradoc Davies nad oedd yn deg i'r Clarc ymyryd.
Mr. Arthen Owen : Ond y mae'n wastraff ar amser i fyned yn mlaen.
Mr. Allanson : Ac y mae'n gwbl groes i'r drefn arferol i neb ymyryd pan fo clerc yn cyfarwyddo'r fainc.
Mr. Davies : Dylaswn gael cyfle i groesholi'r tyst.
Wedi ymgynghori am beth amser dywedodd y Cadeirydd nad oeddynt am fyned yn mlaen yn mhellach a'r achos. Felly taflwyd yr achos allan.