LLWYDDIANT ATHROFAOL MILWR.

Yn mysg y rhai yr oedd yr radd y B A. yn cael eu cyflwyno iddynt yn eu habsenoldeb gan Lys Prifysgol Cymru yn Mangor, yr wythnos ddiweddaf, yr oedd Lifftenant Eirwyn Robyns Owen, mab Mr a Mrs O. Robyns Owen, Erw Wen.

Y mae efe ar hyn o bryd rhywle yn ngororau Gwlad yr Addewid, ond pan y gostega y cythrwfl ac yr aiff yr aflwydd hwn heibio, bydd iddo fyned ymlaen gyda'i efrydiaeth ynglyn a'r gyfraith.

Yr Udgorn 01/08/1917


GWAELEDD.

Drwg genym ddeall fod fod Lifftenant Eirwyn Roberts-Owen, mab ieuengaf Mr a Mrs O. Robyns Owen, yn wael dan yr enteric fever yng Ngwlad Canaan.

Eiddunwn iddo adferiad buan i'w gynefin iechyd.

Yr Udgorn 21/11/1917