NEW YORK A VERMONT
Marwolaeth Gwraig Ieuanc.
Nos Lun, Chwefror 2il, yn un o ysbytai y ddinas, bu farw Mrs. Jane Mary Owen, priod Edward Owen, N. Y., hyhi wedi dioddef cystudd maith a phoenus iawn.Ganwyd Mrs. Owen yn Llithfaen, ger Pwllheli, G. C., ar y 26ain o Fedi, 1882; enwau ei rhieni oeddynt Griffith a'r diweddar Jane Roberts.
Yn 1906, ymfudodd i'r America, gan sefydlu yn Utica, a bu yn gwasanaethu gyda theuluoedd cyfrifol yn y ddinas. Oddeutu pum mlynedd yn ôl, ymunodd mewn priodas a Mr. Edward Owen (gynt o 93 High St., Ffestiniog), ond yn fuan dechreuodd ei hiechyd ddadfeilio, a bu yn wael iawn am amryw fisoedd.
Yr oedd yn aelod o eglwys Moriah (M. C.), lle yr oedd yn fawr ei pharch o herwydd ei bywyd tawel a dilychwin. Heblaw ei phriod gedy mewn galar ei thad yn Llithfaen, G. C., a'i brawd Robert G. Roberts, yn North Carolina, a'r rhai y mae dwfn gydymdeimlad.