CHWARELWR O LITHFAEN A'R FYDDIN.

Dydd lau yn Ynadlys Conwy, dygwyd gerbron chwarelwr o Lithfaen o'r enw Griffith Griffith ar y cyhuddiad o beidio ymuno a'i Fyddin yng Nghastell Caer yn unol a'r alwad a anfonwyd iddo.

Y mae y cyhuddedig tua 35 mlwydd oed. Tystiwyd fod Griffiths yn gweithio yn Northwich ar Awst 15fed, ac yr oedd wedi ei gofrestru yn 46, Church Road, Northwich. Pan anfonwyd y wys yn ei alw i'r Fyddin i'r cyfeiriad uchod ar Mawrth 20, dychwelwyd hi gyda. mynegiad fod y diffynydd wedi myned ymaith. Cymerwyd ef i'r ddalfa yn Llysfaen, ger Colwyn Bay, gan Heddwas Williams ar Ebrill 20. Yr oedd yn gweithio yn un o'r chwarelau calch yno, ac nid oedd ganddo dystysgrif na bathodyn yn ei esgusodi o wasanaeth milwrol.

Dywedodd nas gwyddai fod galwad arno i ymuno a'r Fyddin. Yr oedd ei fam a'i chwaer yn dibynu arno. Gadawodd gyfeiriad ei gartref gyda'i letywraig yn Northwich. Dywedodd, y Swyddog Milwrol y bwriedid rhoddi Griffiths gyda'r Cheshire Regiment.

Y Maer : Yr ydych yn gweld ei fod yn siarad Cymraeg ac nad gall siarad fawr o Saesneg.

Y Swyddog : Efallai y trosglwyddir ef i'r Fyddin Gymreig, ond y mae ei enw yn awr gyda Byddin Caer.

Y Maer : A fuasai unrhyw argymhelliad gan y fainc hon yn fodd i beri i'r cyhuddiedig gael ei roddi mewn adran Gymreig?

Y Swyddog : Nis gallaf ddweyd. Nid yw yr awdurdodau yn caniatau i'r dynion ddewis eu byddin, ond anfonir hwy i'r lle y bo mwyaf o'u hangen.

Dywedodd y diffynydd wrth gadeirydd y fainc nas gallai siarad gair o Saesneg.

Y Dirprwy Brif Gwnstabl Guest : Nid wyf yn ei gredu. Pa fodd y gallodd gario yn mlaen yn Northwich?

Atebodd Griffiths fod ei bartner yn Northwich yn Sais da.

Y Cadeirydd : Yr ydym yn cydymdeimlo yn fawr a chwi. Mae eich hachos yn un pur galed. Nid oes tystiolaeth o gwbl eich bod wedi ceisio twyllo wrth ymadael o Northwich. Nis gallwn eich dirwyo i lai na 2p a rhaid i ni eich trosglwyddo drosodd i'r awdurdodau milwrol.

Dywedodd y Clerc yr ysgrifenai at yr awdurdodau yn Nghaer i wneyd cais am i Griffiths gael ei drosglwyddo i'r Fyddin Gymreig.

Yr Herald Gymraeg 02/05/1916


LLYS APEL SIR GAERNARFON.

Cynhaliwyd yr uchod ym Mhwllheli ddydd Mawrth. Yr oedd yn bresenol Mri J. E. Greaves (cadeirydd), Richard Davies, Dr O. Wynne Griffith, G. Hughes Roberts, John Owen. R. T. Jones. G. A Humphreys, Lieut. Cradoc Davies (Cynrychiolydd Milwrol), Syr John Roberts (Clerc), Hugh Pritchard (Clerc Trybinlys Lleyn).

ACHOS DYRUS O LITHFAEN.

Apeliodd gwraig weddw o Lithfaen am esgusodiad i'w mab ac ymddangosodd cymydog ar ei rhan yn y llys.

Eglurwyd fod rhyw gamddealltwriaeth mawr wedi bod ynglyn a'r achos. Er fod mam y bachgen wedi anfon apel ar ei ran ac fod yr apel hono heb ei hystyried yr oedd y bachgen wedi ei orfodi i fyned i'r Fyddin, ac yr oedd yn awr gydag un o fyddinoedd Seisnig Caer, er nad oedd yn gallu siarad gair o Saesneg.

Yr oedd y bachgen yn gweithio yn Northwich amser y Cofrestriad Cenedlaethol ac ni hysbysodd yr awdurdodau ei fod yn symud i Landdulas i weithio. Anfonwyd rhybudd yn ei alw i'r Fyddin i Northwich, ond ni anfonodd ei letywraig y rhybudd iddo ef.

Y canlyniad fu iddo gael ei gymeryd i'r ddalfa a'i ddwyn o flaen y llys a'i anfon i'r Fyddin i Gaer.

Deallwyd fod ymchwliadau yn cael eu gwneud i'r achos, a gohyriwyd ei ystyried hyd nes y ceir clywed canlyniad yr ymchwiliad hwnw. Ymddangosodd Mri O. Robyns Owen a T. J. Houghton Davies cyfreithwyr dros yr apelwyr.

Yr Herald Gymraeg 23/05/1916