MARW MR W. EVANS, LLYTHYRDY, LLITHFAEN.

Dydd Gwener, Hydref 5ed, bu farw yr hynafgwr dywededig, yn 81 oed. Gŵr enwog yr ardal oedd W.E. - dyn a lanwodd safleoedd pwysig am gyfnod hir.

Bu yn gadeirydd y Bwrdd Ysgol lawer blwyddyn. Efe hefyd oedd cynrychiolydd y plwyf ar y Cyngor Dosbarth ers amser maith. Yr oedd yn rheolwr yr ysgol ddyddiol, ac yn drysorydd yr eglwys Fethodistaidd. Bu'n gefn mawr i'r achos yn ei wedd arianol, ac yn aelod ffyddlon a gwir ofalus am fuddiannau yr eglwys ymhob cylch. Yr hyn oedd syn yn W. Evans oedd ei fedr ymhob cylch, ac yntau yn ddyn na chafodd freintiau addysg ar gychwyn ei yrfa.

Gorfu iddo yn ieuanc iawn droi i ennill ei damaid. Aelwyd gyffredin llafurwr amaethyddol oedd y man y'i magwyd, a hono yn Dwygyfylchi, Dyffryn Conwy. Troes ei wyneb yn ieuanc i'r chwarelau setts. Gwynebodd ardal yr Eifl oddeutu tri- ugain mlynedd yn ôl, efe a'i ddiweddar frawd. Robert Evans, cigydd. etc., Llanaelhaiarn.

Ymgymerodd W. Evans a chadw busnes a llythyrdy yn Llithfaen oddeutu 40 mlynedd yn ôl. Cadwodd ynddo hyd o fewn 13 mlynedd pryd yr ymneillduodd, ac y cymerodd ei ferch a'i phriod. Mrs a Mr W. H. Roberts, y busnes. Bu llwydd hynod i W. Evans, y cyfryw na welir yn aml. Adeiladodd luaws mawr o dai i weithwyr yn Llithfaen; tebygwn nad llai na 50. Yr oedd yn gymeriad a hoffid yn fawr gan bawb. Yn ddyn tra chymwynasgar a charedig, hael at bob achos teilwng ac yn ddyngarwr. Bu'n gefn da i dlodion yn ei swydd o warcheidwad.

Ond daeth y diwedd; nid yw mwy. Priddwyd ei weddiIlion marwol ym mynwent y capel y bu mor ffyddlon iddo, yn Llithfaen, ddydd Mawrth diweddaf. Yr oedd y cynhebrwng yn arddanghosiad o barch y cyhoeddt i'r hen frawd.

Nodded a gaffo ei anwyliaid â alarant eu colled. Gwasanaethwyd yn ei angladd gan y Parch Owen Pritchard, Nefyn.

Yr Herald Gymraeg 16/10/1917