MARW HEN FRODOR.

Ddydd Llun, claddwyd Mr. Griffith Davies, Treddafydd, taid "Tre-fardd," hen gymeriad cadarn hoff. Daeth torf fawr i'w angladd. Dangosai hwn pa mor fawr ei barch yn mhell ac agos.

Daeth ei hen weinidog, y Parch. E. S. Morris, Aberffraw, Mon, i dalu iddo y gymwynas olaf. Efe a wasanaethai yn yr angladd.

Gwagia yr ardal o'i hen gymeriadau,
Llenwir y fynwent ar ochr y bryn,
Mawrth gyda'i awel ddeffry y briall,
Gwywa'r henafgwyr i briddell y glyn.

Yr Herald Gymraeg 02/04/1918