MARW SYDYN.

Boreu Mercher bu Mr. John G. Jones, Caerfynydd, crydd, farw yn dra sydyn ar yr heol, tra yn aros am gerbyd i fyned i'r dref.

Yr oedd yn adnabyddus iawn fel adroddwr a datganwr a gwasanaethyddodd lawer mewn cyngherddau yn rhad.

Perthynai iddo lawer o wreiddiolder a medr a bydd yn chwith iawn ei golli. Nid oedd ond 38 mlwydd oed.

Yr Herald Gymraeg 15/01/1918

MARW.

Dydd Llun diwethaf hebryngwyd gweddillion y cyfaill anwyl a hoff John William Jones, Caermynydd, i dŷ ei hir gartref yn mynwent Llithfaen.

Er fod yr hin yn eithriadoil o ystormus a'r eira yn gorchuddio'r ddaear, daeth tyrfa fawr o bell ac agos.

Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan y Parch L. Jones, Llanaelhaiarn, y Rheithor Mr. Evan Jones a Mr. Richard Parry Jones, pa rai siaradent yn uchel am gymeriad yr ymadawedig fel pregethiwr ac fel gwas ffyddlawn yn yr eglwys, yr Ysgol Sabbothol a chylchoedd pwysig eraill.

Yr Herald Gymraeg 22/01/1918