Ynadlys Pwllheli.

Cynhaliwyd dydd Mercher. Yr oedd yn bresenol Mri J. G. Jones (cadeirydd), Claude. Lloyd Edwards, Cyrnol Gough, William Thomas a Maurice Jones.

DIRWYON TRWM.

Cyhuddai yr Arolygydd Owen Gwilym Hughes, Ty Uchaf, Nant, Llithfaen, o gyneu tân yn y nos yn groes i ddeddf y wlad.

Tystiai Mr Samuel Richards, Port-nant, iddo weled y tan tua 9-30 yr hwyr pan yr aeth ef yno. Yr oedd y diffynydd yn ceisio diffodd y tân. Tystiai y diffyn- ydd ei fod wedi goleu y tân tu 3 o'r gloch y prydnawn, a bu yn ceisio ei ddiffodd o 5 y prydnawn hyd 11 y nos. Nid oedd yn meddwl y buasai yn cyneu hyd yr hwyr.

Tystiai John Hughes fod ei frawd wedi diffodd y tân tua phump o'r gloch, ond fel y bu iddo ail gyneu. Diffoddwyd ef tuag un-ar-ddeg, a buont ar eu traed drwy y nos yn ei wylio ac yn ei roddi allan pan wnai ail gyneu.

Tystiai yr heddwas arbenig - Roberts ei fod ef wedi erchi y diffynydd i fyned i ddiffodd y tân, ac aeth yntau yn ôl ei archiad.

Dirwywyd Gwilym Hughes i 1p 10s.

Yr Udgorn 23/05/1917