PRIODAS BLAENOR.

Dydd Llun, Chwefror 29ain. yn Salem, Pwllheii unwyd mewn glan briodas, Mr. Henry Richard Jones, Hendy, a Miss Kate Griffith, merch henaf Mr a Mrs Humphrey Griffith, Cefnydd, Pistyll. Gweinid ar y priodfab gan Mr. .Richard Jones, Glynllifon, Nefyn, ac ar y briodferch gan ei chwaer, Miss Annie Griffith. Gwasanaethwyd gan y Parch E. Sidney Morris, Llithfaen, yn mhrsenoldeb Mr. W. Morris Jones. Cofrestrydd.

Hon oedd y briodas gyntaf a gymerodd Ie yn Salem, wedi'r adgyweiriad, ar ôl y tan ddinystriodd y deml gyntaf. Bu Mr Jones yn flaenor yn Salem am rai blynyddoedd pan yn byw yn Mhwllheli. A diamheu y caiff Mr a Mrs Jones Feibl, yn ôl yr arferiad, gan y frawdoliaeth yn Salem i fod yn goffadwriaeth o'r amgylchiad. Hapus iawn ydyw fod un sydd wedi bod mewn cysylltiad mor agos a'r Eglwys yn dod i mewn am yr anrhydedd hwn.

Trefnwyd y ciniaw priodasol gyda M Denman, yn y Maes. Ac ymadawodd Mr a Mrs Jones i dreulio ychydig ddyddiau yn Sir Fôn.

Dymuna cylch eang o gyfeillion bob llwyddiant i'r ddau yn eu cyrch newydd.

Yr Herald Gymraeg 07/03/1916