GENETH O LITHFAEN YN BODDI.
Dydd Mercher, tra'n ymdrochi yn Morfa Bychan, Porthmadog, collodd Letitia Griffiths, geneth fach 13 mlwydd oed i Mr. a Mrs. Hugh Griffiths, Ysgolfeistr, Llithfaen, ei bywyd.Yr oedd yr eneth fach yn treulio ei gwyliau gyda Mr. J T. Jones, Bank, Porthmadog (ei hewythr), a thua haner dydd aeth hi a Doris, geneth fach Mr. a Mrs, J. R,. Owen, Y.H i ymdrochi i Morfa Bychan. Modd bynag, aeth Letitia i anhawster trwy fyned i le dwfn yn y môr. Ceisiodd Doris ei goreu i'w hachub, ond yn ofer. Yna rhedodd i chwilio am gymorth, ond ni ddaeth ymwared hyd yn rhy ddiweddar.
Cynhaliwyd trengholiad ar y corff ddydd Iau gan Mr. O. Robyns Owen. Tystiodd Mr. Griffith Jones iddo gael y corff wedi ei olchi i'r lan gan y llanw tua wyth o'r gloch nos Fercher. Rhoed tystiolaeth yn lle y ferch gan Mr. J. R. Owen, Y. H., gan fod y ferch mewn cyflwr rhy gynhyrfus i roddi tystiolaeth.
Barnwyd mai damwain fu.
Datganodd y Crwner a'r rheithwyr eu cydymdeimlad, dwysaf â Mr. a Mrs. H Griffiths, y rhieni, yn eu galar, ac â Mr. a Mrs. J. R. Owen a'r ferch.
Yr Udgorn 04/09/1918
LLITHFAEN ANGLADD MISS LETITIA GRIFFITHS.
Dydd Sadwrn bu angladd Miss Letitia Griffiths, yr hon a gollodd ei bywyd wrth ymdrochi ym Morfa Bychan, le yn Llithfaen.Yr oedd cynhulliad lluosog wedi ymgasglu er gweled y gymwyna.s olaf yn cael ei thalu i un o'r genethod mwyaf deallgar a phur feddai'r fro. Gweinyddai y Parch. W. T. Ellis. B.D.. yn y tŷ, a'r Parch. Owen Pritchard,. Nefyn, yn y tŷ, a'r Parch. Owen Pritchard,. Nefyn, yn y fynwent.
Y prif alarwyr oeddynt Mri. Hugh Griffiths. A.C. (tad), Joan a Taliesin (brodyr), William Jones, Banc, Porthmadog; (ewythr), J. R. Owen a Capt. Griffiths. Ym Mhencaenevvydd bu i ddiaconiaid Pencaenewydd a LIithiaen ymuno a'r angaldd. Anfonwyd blodeu gan y rhai canlynol : Eluned, Auntie Edith, Nanw, Doris, Dora. the little Bairds, Lena a Katie, Little Denis, Jearnel a Leonora, plant Mrs. Silver; Mrs. Daniel Morris, Winnie Hughes. Jennie a Ellen, Nesta, Laura, a Lizzie, athrawon a phlant ysgol Llithfaen.
Yn yr adroddiad o hanes y trychineb yr wythnos o'r blaen gosodwyd enw Mr. J. T. Jones. Banc, yn lle Mr. William Jones, Banc.
Yr oedd yr eneth fach yn aros gyda'r olaf, a chydymdeimlir yn fawr ag ef a Mrs. Jones yn ogystal ag a'r rhieni, Mr. a Mrs. H. Griffiths, yn eu dwfn alar.
Yr Herald Gymraeg 10/09/1918
ANGLADD.
Dydd Sadwrn claddwyd gweddillion Miss Letitia Griffith (merch Mr. a Mrs. Hugh Griffith, Ysgol y Cyngor), yr hon a gollodd ei bywyd wrth ymdrochi yn Morfa Bychan.Daeth torf luosog ynghyd i dalu y gymwynas olaf i un o'r genethod mwyaf pur a deallgar feddai'r fro.
Gweinyddid yn y tŷ gan y Parch. W. T. Ellis, B. D., ac yn y fynwent gan y Parch. Owen Pritchard, Nefyn.
Y prif alarwyr oeddynt Mri. Hugh Griffith (tad), Joan a Taliesin (brodyr), W. Jones, Banc, Porthmadog (ewythr), J. R. Owen a Capt. Griffith.
Cydymdeimlir a'r rhieni a'r teulu oll yn eu proftedigaeth lem.