MARW BLAENOR.

Dydd Llun, Mawrth 24ain. bu farw Mr. Richard Owen, Tanrallt, yn yr oedran teg o dair a phedwar ugain mlwydd oed, a hynny ar ddydd pen ei flwydd.

Llanwodd y diweddar Mr. Richard Owen, le amlwg gyda chrefydd yn y gwahanol ardaloedd y bu yn byw ynddynt am gyfnod maith. Bu'n flaenor defnyddiol gyda'i gydgenedl yn yr America am rai blynyddocdd, ac wedi dychwelyd i'r wlad hon a myned i fyw i Ynys y Pandy, dewiswyd ef yn flaenor gan Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Cwmstradllyn. Ac yna yn ddiweddarach ar ei oes, wedi dychwelyd i'w fro enedigol, dewiswyd ef drachefn i'r un swydd gan Eglwys y M.C. yn Llithfaen.

Yr oedd Richard Owen yn ŵr pur eithriadol, wedi gweled llawer o'r byd tra yn dilyn ei alwedigaeth ar y mor yn nechreu oes. Yn sylwedydd craff, yn ddarllenwr mawr, ac yn siaradwr derbyniol iawn. Ar un adeg bu yn aelod amlwg a gwerthfawr iawn o Gyfarfod Misol Lleyn ac Eiflonydd. Gwrandewid arno bob amser gyda boddhad mawr, gan mor newydd a phriodol fyddai ei annerchiadau. Yr oedd yn anarferol o hynaws a charedig fel cymydog, a phawb a gair da iddo mewn byd ac eglwys.

Collodd ei briod ers rhai blynyddoedd, a gofalwyd am dano yn dyner iawn yn ei lesgedd gan deulu caredig Llithfaen Isaf. Dydd Iau dilynol, cymerodd yr angladd le ym mynwent Capel M.C. Llithfaen.

Gweinyddwyd wrth y tŷ, yn y capel, ac wrth y bedd, gan ei gyn-weinidog, y Parch E. Sidney Morris, Aberffraw. yn cael ei gynorthwyo gan Y Parch W. Lewis Jones, Llanaelhaiarn, Llywydd Cyfarfod Misol Lleyn ac Eifionydd. Dygwyd tystiolaeth uchel iawn i werth cymeriad yr ymadawedig, a thystiai cydwybod pawb oedd yn bresennol fod yr oll a ddywedid yn eiriau gwirionedd a sobrwydd.

Cydymdeimlir yn fawr a'i unig frawd sydd yn fyw Mr. Evan. Jones, Llithfaen Isaf a'i chwiorydd yn eu profedigaeth. Bydd coffadwriaeth Richard Owen yn annwyl gan llaweroedd, am lawer blwyddyn. Huned yn dawel, ar ôl ei holl grwydriadau a'i fordeithiau pell yn naear ei fro enedigol ar fynwes yr Eifl fawr, freuddwydiol.

Yr Herald Gymraeg 08/04/1919