PRIODAS HARDD.
Dydd Mercher diweddaf yng nghapel y Methodistiaid, y Parch. E. Sidney Morris yn gweinyddu, yn cael ei gynorthwyo gan Mr W. M. Jones, cofrestrydd, priodwyd Mr William Roberts, Pantymoelia, Pencaenewydd, a Miss Lizzie Hughes, Penygroes Shop.Rhoddwyd y briodasferch ymaith gan ei hewythr, Mr Evan Jones, Llithfaen Isat Gwasanaethwyd arni gan Miss Katie Roberts, Bradford, chwaer y priodfab, a Miss Ellen Edwards, Llithfaen Isaf, cyfnither ac ar y priodfad gan Mr John Hughes, Conwy, brawd y briodasferch, a Mr J. Moreton Davies, Pencaenewydd. Yr oedd hefyd yn bresenol Miss Kate Hughes, Caernarfon, a Mrs Hughes, Penygroes Shop.
Ar ôl sicrhau y cwlwm, ymadawodd y cwmni mewn arwyddion o lawenydd a dymuniadau da mewn dau fodur i Fangor, ac aeth Mr a Mrs Roberts ymlaen i'r Brif-ddinas, lle bwriedir treulio y mis mêl.
Yr Udgorn 04/02/1914
AR BRIODAS.
Mr. William Roberts, Pant y Moeliaid, Pencae Newydd, â Miss Lizzie Hughes, Penygroes, Llithfaen.Gwilym aeth i gwlwm oes—a'i feinwen
Mewn rhyw funyd diloes;
Wedi'r uniad, hir einioes
I "wr" a "gwraig," heb awr groes.
CYBI.