Llys Sirol Pwllheli.

Cynhaliwyd dydd Mawrth, gerbron y Barnwr W. Evans.

DINYSTR I EIDDO.

Hawliai Ellen Foulkes, Llithfaen, iawn gan ei brawd R. Foulkes, am wneyd niwed i dŷ perthynol iddi o'r enw Brynffynon, a cholled arall i'r swm o 6p. 10s. Ymddangosai Mr. Robyns Owen, dros yr hawlyddes, a dywedai fod Brynffynon, wedi ei adael i'r hawlyddes gan ei mham yn ei hewyllys. Bu iddi hi dalu 20p i'r atebydd yn ôl gofynion yr ewyllys.

Rhoddodd yr atebydd rybudd i denant y tŷ i ymadael, trwy hyny bu y tŷ yn wag am haner blwyddyn. Hefyd bu iddo falurio y drws, ac achosi colledion eraill yn y lle. Ysgrifenai yr atebydd ei fod yn foddlon i arwyddo i gydnabod hawl ei chwaer yn y lle ac i addaw peidio ag ymyryd etto. Nis gallai ddod i'r Llys oherwydd afiechyd.

Dyfarnwyd 6p 10s. i'r hawlyddes.

Yr Udgorn 18/04/1917