Rheithor Llithfaen yn Enill.
Ymddangosai Mr O. Robyns Owen yn Llys Sirol Pwllheli, dydd Mercher, ar ran John Roberts, Victoria Hotel, Llithfaen, yn hawlio rhent ddwbl am dŷ oddiar y Parch. Hugh Williams Rheithor Llithfaen, am yr honid iddo a pheidio rhoddi y tŷ i fyny yn unol a rhybudd gafodd gan yr hawlydd.Dywedai y diffynydd na ddarfu iddo wrthod rhoddi y tŷ i fyny. Yr oedd wedi clywed oddiwrth yr hawlydd ei fod wedi gosod y tŷ i denant arall, a bu iddo ef ganiatau i'r tenant hwnw ystorio ei ddodrefn yn y tŷ. Hefyd yr oedd y perchenog yn ymarferol wedi cymeryd meddiant o'r lle trwy drimio y cloddiau a thrin yr ardd.
Rhoes y Barnwr ei ddyfarniad ym mhlaid y diffynydd.