MARW TRIST.

Boreu Sadwrn bu farw y bachgen hoff a siriol John Eifion Davies, mab Mr a Mrs E. Eidan Davies, yn 13 1/2 mlwydd oed.

Blodeuyn tyner a gwir addawol ydoedd Eifion, ac yn hynod ymysg plant yr ardal ar gyfrif ei ddiniweidrwydd pur a'i bertrwydd. Cymer y gladdedigaeth le yn mynwent M. C. Llithfaen dydd Mercher, a gwasanaethir gan y Parch, R. M. Edmunds, Llanbedrog.

Cydymdeimlir a'i deulu trallodedig yn eu galar.

Yr Udgorn 05/06/1918