PISTYLL MARWOLAETH GWRAIG ADNABYDDUS.

Yn sydyn iawn brydnawn Gwener, bu farw Mrs. Jane Jones, priod Mr. Henry Jones, Hendy, yn ei 55 mlwydd oed.

Yr oedd Mrs. Jones yn ymddangos fel pe yn dechreu gwella o afiechyd y bu yn cwyno dano, ac yr oedd Dr. Wynne Griffith, meddyg y teulu, newydd adael y tŷ gan ddatgan ei foddhad yn ei hymddangosiad. Ond tra y bu ei phriod yn hebrwng y meddyg ymaith cafodd ymosodiad or parlys a bu farw ar unwaith.

Mae Mr. a Mrs. Jones yn adnabyddus i gylch eang trwy y wlad. Buont yn gwasanaethu fel meistr a meistres yn Nhloty Pwllheli am flynyddau lawer a cyn hyny yn cadw yr efail yn Glandwyfach.

Cydymdeimlir yn fawr â Mr. Jones a'r ferch yn eu profedigaetth lem. Anghyhoedd fydd yr angladd yr hwn a gymer le yn Capel Helyg dydd Mercher (yfory).

Herald Gymraeg 24/11/1914