"RWY'N ANFON FY MEIBL ADREF" (Alaw "Y Fwyalchen.")
"Dydd Mercher derbyniais barsel gyda'r post oddiwrth Tom, fy machgen, yn cynwys amryw o fan betheuach a garai fwyaf. Anfonodd hwynt adref cyn myned i'r rhyfel. Yr oedd yn hwylio 9 o'r gloch nos Fawrth. Yn eu mysg yr oedd Beibl bychan a gludai bob amser, yr hwn gynt, fu yn eiddo i'w fam ymadawedig. Fel hyn y mae bywyd onide. Cwrddwn megis ar ddamwain a'r hyn a sieryd wrth ein henaid."Rwy'n anfon hen Feiibl mam adref,
Oh, cedwch ef i mi, fy nhad,
Nid oes genyf logell i'w gario
Tra'n ymladd yn mrwydrau fy ngwlad.
Rwy'n anfon fy mhethau hawddgaraf
I'ch gofal tra byddaf i ffwrdd
Yn ymladd tros Gymru a chartref;
Duw roddo i'n eto gael cwrdd.
Mae genyf fi Destament bychan,
Hwn fydd yn fy mynwes o hyd,
A ges gan fy athraw yn anrheg-
Ef fydd fy arweinydd trwy'r byd;
Nid ydwyf am fyned, a Beibl
Fy mam i erch faesydd y gwaed;
Rhag ofn i'r un estron ei fathru
Os syrthio a wnaf dan ei draed.
Rhif mawr o'i adnodau, chwi welwch,
A fawiwyd trwy blygiad y dail;
Y rheiny oedd angor ei henaid,
Hwynt hwy oedd cadernid ei sail.
Y rhieiny bob un mi a'u dysgais;
Rwy'n gallu ymorffwys ar Dduw.
Efe a ddaw gydaf i bobman,
Y nesaf o bawb-"Efe yw."
Fy machgen, fy machgen hawddgaraf,
Fy nghyntafanedig sy'n mynd
I wyneb y ddrycin erwinaf;
Duw'r nefoedd bydd iddo yn ffrynd
Os da yn Dy olwg ei ddychwel
I'w gartref heb anaf na chlais,
Datguddia i'w enaid trwy'r rhyfel
Ddu hacrwch pob trachwant a thrais.
Derbyniad dy lythyr a'r Beibl
Enynodd deimladau dwys, brudd;
A theimlwn fy enaid yn suddo,
A'r dagrau yn lleitho fy ngrydd
Mi wn y bu llawer hen adnod
I enaid dy fam yn rhoi gwledd,
Ar linell o benill-disgynodd
I afon ddu angau a'r bedd.
Wel, ffarwel fy machgen hawddgaraf;
Dy gyfaill f'o Iesu dy fam,
A goleu ei Beibl plygedig
Yn llewyrch i'th lwybrau bob cam.
Os cwympo a wnei yn y rhyfel
Trwy ddwylaw gelynion dy wlad,
Duw'r Beibl fo'n derbyn dy ysbryd,
A'i aden fo'n gysgod i'th dad.
Anrhegwyd fy mab Tom a Thestament bychan gan ei hen athraw, Owain Williams Ysgol y Cynghor, Nefyn.
Pistyll, Gorff. 14, 1915. J.T.W.
Yr Herald Gymraeg 20/07/1915
CYD-DDIGWYDDIADAU HYNOD.
Yr wythnos o'r blaen yn yr "Herald" caed cân gan "J. T. W," Pistyll, am lythyr o Ganaan a gwaed arno, oddiwrth Tom ei fachgen. Ddydd Gwener cyn y diweddaf derbyniodd J. T. W. hysbysrwydd o'r Swyddfa Ryfel fod ei fab wedi ei glwyfo mewn ymgyrch ar y 26ain o Fawrth.Digwyddai y dydd hwnw fod yn ddydd pen blwydd ei dad, yn 51 oed.
Ni wyddis eto ddim am natur ei glwyf, na'r lle y mae yn gorwedd. Mae Tom yn fachgen rhagorol, ac wedi gweled llawer brwydr cyn hyn yn y Dardanelles.
Y mae ar law amryw o'i gynyrchion barddonol sydd o nodwedd aruchel eu moes. Cant ymddangos yn fuan. Eiddunwn adferiad buan iddo a chydymdeimlwn a'i dad. Cyn cael y newydd hwn gan ein gohebydd yr oedd y gan, "Llef o'r Gaddug," gan J. T. W., a welir yn y rhifyn hyn yn ein llaw ddydd yn nghynt. Gwel y darllenydd y cydgyfarfyddiadau hynod drosto ei hun.
Boed nodded Ior drostynt hwy a rhiaint y wlad a'r gwledydd.
Yr Herald Gymraeg 24/04/1917
ATTEB I ODLIG TWM NEFYN.
Gan ei dad-J-T.W., Pistyll.
Fy anwyl fachgen - "Tom,"Dy odlig bruddaidd di
Sy'n cyffro dwfn fy mron,
Fy nagrau red yn lli -
Calonau rhiaint byd sy'n awr
Mor eang ag yw'r byd o fawr.
Ni cheir yn Nghymru wen
Ar bren ond deilen grin;
A'i llanciau teg eu pryd
Sy 'i gyd yn "Maes y drin."
Er bod yn mhell o'u hanwyl wlad,
Mae'r hogia i gyd dan "aden Tad."
Mae'r gwanwyn yn neshau,
Daw brigau llwm y coed
Yn newydd ddail bob un,
Daw Llŷn mor deg a 'rioed;
Ond llu o'i bechgyn tyner gol
I aelwyd rhiaint ni ddaw'n ol.
Gorseddau Iwrop gref
Ddug "Hydref" blin ar fyd;
Ei gorwynt llym a ddaeth,
A'n hogia aeth i gyd;
Ond, cysur cryf, er corwynt yw,
Y chwythir myrdd yn nes at Dduw.
Na wyla 'machgen hoff,
Os cloff ar wely clwy',
Fe gloffwyd Jacob - do -
Er ei gymhwyso'n fwy
Yn blentyn cu, "Cyfamod Duw,"
Caiff sant ei glwy' wrth ddechreu byw.
Pe bai Eglwysi 'n gwlad
Heb ymwad gyda Duw,
Ceid awel deheu fwyn,
A gwanwyn gweddi fwyn;
A'i crindir crefydd sych ein gwlad
Yn flodau gerddi Nef ein Tad.
Ond ah! ceir Cymru ffol
Ar ol ei duwiau gau;
Dyrchafa ffugiol lef,
Rhag hon mae'r Nef ynghau;
Tra'n bechgyn yn y ffosydd gwaed
Gant "Graig yr Oesoedd" dan eu traed.