Colofn Awen.

Dyma eto gerdd naturiol gan un o fechgyn LIŷn, o faes y gwaed. Syn o beth yw medru meddwi mewn modd yn y byd, heb son am ganu,yn y fath le!

Ac eithrio ymadroddion fel "Gwn, yn ddiau, "Glyna 'nghalon" (yn lle glŷn fy nghalon), "Perlog wenau," a.y., cerdd naturiol yw eiddo Twm Nefyn.

Diolch, a Blwyddyn Newydd lwyddianus iddo ef a'i gymrodyr.

O FAES Y DRIN.

Daeth yr Hydref a'i gymylau
    I ro'i ffarwel oer i'r Haf;
Crin yw'r dail, - ni chân yr adar!
    Gwelaf natur fel pe'n glaf;
Plygu pen mae'r blodau gwynion,
    Oeri wna'r awelon mwyn;
Ac i'r Gog, nid oes Y'nghymru
    Rhwng y crin-ddail, unrhyw swyn!

Ond os diangc wna y Gwccw
    Oddiar fryniau Cymru fâd,
Glyna 'nghalon wrth ei chreigiau
    Er i'r Hydref doi y wlad;
Gwelaf ynddi - er pob cwmwl -
    Swyn uwch pob rhyw arall wlad;
Gwelaf rhwng ei bryniau llwydion
    Berlog wennau mam a thad!

Disgwyl 'rwyf - fel llawer eraill -
    Am y dydd pryd caffom hyn;
Wedi blino ar grasdiroedd,
    Hiraeth dwys am nant a bryn;
Yn y "ffos" nid yw fy nghartref,
    Nid ar sych grasdiroedd chwaith,
Gwaedda'r enaid am gael rhywle
    Sydd anwylach ar y "daith"!

Gwaedda'n aml mewn och'neidiau, -
    Oni chlyw 'r Hwn greoedd Nef ?
Oni wrendy'r Hwn a'm carodd
    Cyn fy mod, fy ngwanaidd lef ?
Gwna yn ddiau,—agos ydyw,
    Nes na saeth 'run gelyn du,—
Cymru—etto fydd fy nhrigfan

TWM NEFYN.

Yr Udgorn 09/01/1918