RHIW LLEYN MARWOLAETH.
Dydd LIun, Mehefin 2, bu farw'r wraig dawel, Mrs Jane Griffith, Pwllmelyn, ar ôl hir nychdod, yn 50 mlwydd oed.Yr oedd yn wraig drefnus a phur ei rhodiad, ac addfwyn iawn ei natur. Yr oedd yn aelod yn Tanyfoel (M.C.). Un o gymeriadau tawel ein hardal ydoedd, ac yn hynod boblogaidd gyda phawb o'i chydnabod.
Y dydd Gwener dilynol hebryngwyd ei gweddillion i fynwent Eglwys St. Hywyn, Aberdaron.
Gadawodd briod, mab, a merch, tad, a mam a chwiorydd i alaru eu colled ar ei hol. Cydymdeimir yn fawr a hwy yn eu dwfn drallod.