MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH.
Y mae genym y gorchwyl prudd o gofnodi marwolaeth Mr G E Jones (Ifan Efrais), yr hwn fu yn athraw ffyddlon yn Ysgol y Cyngor am un mlynedd ar ddeg. Cyn dyfod yma treulioodd 30 mlynedd yn Nantperis. Brodor ydoedd o Fangor. Aeth drwy ei gwrs athrofaol yng Ngholeg Normalaidd Bangor.Yr oedd wedi ei gynysgaeddu a nodweddion a thalentau oedd yn ei osod ar lwyfanau uwchlaw y cyffredin. Yr oedd yn reddfol garedig, yn gyfaill diffuant, ac yn ymgomiwr heb ei ail. Gwnai bawb o'i amgylch yn llawen a digrifwch ei chwedl a'i eiriau cyrhaedd-bert. Yr oedd yn feddianol ar gof eithriadol. Byddai bob amser yn barod at wasanaeth y cyhoedd. Ni byddai neb yn ofni myned i ofyn cymwynas ganddo. Pan fyddai cyngherddau elusenol yn cael en cynal, byddai ef bob amser yn barod i roddi ei wasanaeth yn rhad ac am ddim. Cymerodd ran flaenllaw yng nghychwyniad ymrosynfa cwn defaid y Rhiw, i ba un y bu yn ysgrifenydd er ei chychwyniad. Bu yn arweinydd y gylchwyl lenyddol am un mlynedd ar ddeg yn olynol, ac arweinydd heb ei ail ydoedd, a chwith oedd genym weled ei le yn wag eleni. Bu yn arweinydd y seindorf yn Llanberis am flynyddau, ac ysgrifenydd lleol Undeb, yr Athrawon, yn nosbarth Eryri.
Yr oedd yn fardd da, ac yn llenor gwych. Bu yn arholwr y safonau yn Nosbarth Pen Lleyn am amser a gwnaeth waith da. Yr oedd ei fedr fel oerddor yn rhoddi iddo safle arbenig ymysg cerddorion. Aeth yn gynar ar ei ddydd i mewn trwy byrth y wyddur hon, ac fe oedodd yn ddigon hir yn ei chysegr i adnabod a deall llawer o'i chyfrinion. Bu yn dra defnyddiol hefyd gyda chaniadaeth y cysegr yn Nhanyfoel (M.C.) fel cyfeilydd am flynyddau, ac y mae ei ffyddlondeb yn y cylch hwn yn cael ei gofio gyda diolchgarwch. Hefyd bu yn cyfeilio mewn cymanfaoedd yn Nosbarth Pen Lleyn, ac yn arweinydd. Fel yna gwelwn nad ydyw wedi treulio ei oes yn ddiwaith.
A nos Lun. Mai y 15fed, gadawodd ei ysbryd y babell fregus, yn 64 mIwydd oed, a melus y gollyngdod wedi'r dioddef dirdynol. Gedy dair merch i alaru ar ei ôl, â pha rai mae cydymdeimlad yr ardalwyr yn ddwfn.
Dydd Gwener dilynol hebryngwyd yr hyn oedd farwol o hono i fynwent Aberdaron. Anghyhoedd ydoedd yr angladd. Gwasanaethwyd yn y tŷ gan y Parch D F Roberts, Rhydbach. Yna awd tua'r gladdfa fel y canlyn :—
Ym mlaenaf cerbyd yn cynwys y bearers, yna yr elor gerbyd, yna cerbyd yn cynwys y prif alarwyr ac yn olaf cerbyd yn cynwys cyfeillion yr ymadawedig. Gwasanaethwyd yn yr eglwys ac er lan y bedd gan Parch T Owen, Ficer. Yr oedd ei arch wedi ei gorchuddio a blodeu dyrch heirdd, ac un mewn gwydr wedi ei rhoddi gan aelodau pwyllgor ymrysonfa cwn defaid y Rhiw.
Derbynied y teulu ein cydymdeimlad dyfnaf.
Yr Herald Gymraeg 30/05/1916
A SCHOOLMASTER'S DEATH.
Mr. G. E. Jones (Ifan Efrais), headmaster of Rhiw School for eleven years, died at the age of sixty-four years.He was a native of Bangor, and was for thirty years at Nantperis before he went to Rhiw.
He was gifted as a bard and musician, and was a successful conductor. He led Llanberis Brass Band for years. The founder of sheep dog trials at Rhiw, he was also at the head of other movements.
The funeral took place at Aberdaron. The Rev. D. F. Roberts, Rhydbach, officiated at the house, and the Rev. T. E. Owen, the vicar, at the graveside. Deceased leaves three daughters.