MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH.

Dydd Mawrth, Tachwedd, y 7fed, bu farw Mr. Owen Williams, Tanygraig, yn yr oedran teg o 84 mlwydd oed. Ef ydoedd yr aelod hynaf yn Eglwys Tanyfoel.

Yr oedd yn caru Methodistiaeth ac Eglwys Tanyfoel a'i holl galon. Gellir dweyd am dano, "Wele Iaraeliad yn wir, yn yr hwn nad oedd dwyll." Yr oedd ers blynyddau a'i gam yn fyr, ac yn amlwg i bawb fod y babell ddaearol yn dadfeilio, ond er hyny yn ieuanc o ran ei ysbryd ac yn fyw iawn i bethau'r byd ysbrydol. Yr oedd ers misoedd yn addfedu i ogoniant. Yr oedd yn gymeriad pur a diabsen. Fel Cristion yr oedd yn llariaidd, ac o dymher hynaws a serchog. Yr oedd addfwynder yn ei wedd, ei lais, ei ysbryd a'i ymddyddanion.

Ni fynai er dim wneyd na dweyd dim i friwio teimladau ei gyd-ddynion. Onid oedd ef fel y mae llawer, yn myfyrio am eiriau fel brath cleddyf i wanu teimladau ei gyd-ddynion. Nid un o'r tylwyth yna oedd ef. Ond un hynod o dyner o deimladau ei gyfeillion bob amser. "Gwyn eu byd y tangnefeddwyr," a "Gwyn en byd y rhai addfwyn," medd y Gair. Ac os oes rhywun yn gymhwys i etifeddu y byd gwyn hwnw o breswylwyr cyrrau'r ddaear, y mae genym le cryf i gredu fod Owen Williams heddyw yn "wyn ei fyd" mewn gwirionedd.

Y dydd Sadwrn dilynol daeth tyrfa luosog ynghyd i hebrwng yr hyn oedd farwol ohono i dy ei hir gartref ym Mynwent St. Aelrhyw. Gwasanaethwyd yn y tŷ gan Mr. Rich. Owen, Waen, ac yn yr Eglwys ac ar lan y bedd gan y Parch. D. Sinnett Jones, Rheithordy.

Gedy weddw a thair merch ac un mab a llu o wyrion i alaru ar ei ôl. Derbynient ein cydymdeimlad dyfnaf.

Yr Herald Gymraeg 21/11/1916