Ynadlys Pwllheli.

Cynhaliwyd dydd Mercher. Yr oedd yn bresenol Mri J. G. Jones (cadeirydd), Claude. Lloyd Edwards, Cyrnol Gough, William Thomas a Maurice Jones.

DIRWYON TRWM.

Cyhuddid Elizabeth Davies, Conion Uchaf, Rhiw, o gyneu tân ar fynydd y Rhiw gan yr Heddwas Thomas, Sarn, yr hwn gyda Thomas Jones, heddwas arbenig, a dystient ei fod yn dân mawr iawn.

Dywedai yr Arolygydd Owen fod awdurdodau y Marconi wedi cwyno fod y tân i'w weled o Towyn. Bu i long gael ei suddo yn agos i'r lle boreu dranoeth gan long tanforawl.

Dywedai John Davies, Ty'n Mynydd, Rhiw, perthynas i'r ddiffynyddes, mai yn anfwriadol hollol y rhoddodd dân yn y lle, a'i bod wedi ceisio ei ddiffodd.

Dirwywyd Elizabeth Davies i 3p. Sylwai y cadeirydd ei fod yn gobeithio y byddai yn rhybudd i eraill.

Yr Udgorn 23/05/1917