GWYWO'N GYNAR.

Gofidus genym gofnodi marwolaeth Miss Kate Williams, unig blentyn Mr. a Mrs. Evan Williams, Tynygamfa, yr hyn a gymerodd le nos Lun, Tach. 4ydd, yn 22ain mlwydd oed.

Cafodd ei magu ar aelwyd grefyddol. Yr oedd yn amlwg ers misoedd fod Kate yn teithio yn gyflym i gyfeiriad y Cartref Tragwyddol. Cafodd gystudd maith, ac er cymaint swyn oedd iechyd a bywyd y byd hwn iddi, fel i bawb ieuanc, ymadawodd yn ostyngedig i'r Ewyllys Fawr.

Nodweddion amlwg iawn yn ei chymeriad oedd ei sirioldeb a'i charedigrwydd, y rhai a estynai i bawb yn ddiwahaniaeth. Yr oedd felly yn arbenig tuag at achos Iesu Grist. Danghosai awydd am i bobpeth perthynol iddo lwyddo, a byddai yn barod bob amser i unrhyw wasanaeth ynglyn a'i Deyrnas. Ef. Bu'n wasanaethgar iawn gyda'r Band of Hope, Yr Ysgol Sul a chyda'r offeryn. Yn eglwys Pisgah (W) safai yn uchel yng ngolwg ei heglwys fel un oedd yn harddu crefydd yn y cylch, ac y mae colli cymeriad mor loeyw a glan yn golled drom i gymdeithas.

Bu'n ddiwyd ynglyn a pharatoi cysuron i'r milwyr a bu'n casglu wyau i'r milwyr clwyfedig hvd y caniataodd ei hiechyd.

Y dydd Sadwrn dilynol daeth lluaws yn nghyd i hebrwng yr hyn oedd farwol ohoni i fynwent Nebo. Gorymdeithiwyd yn araf tua'r gladdfa., Yn dilyn yr elorgerbyd yr ydoedd ei dosbarth Ysgol Sul, yn ôl ei dymuniad ei hun. Gochuddiwyd ei bedd a blodeudyrch, un o ba rai anfonwyd gan ei dosbarth Ysgol Sul i ddangos y lle dwfn oedd iddi yn eu mynwesau.

Dyma fel y canodd Mr. Gruffydd. Ysgol y Cynghor, ar ei hol :

Gwywodd y grug dyf o gylch dy ddor,
    A thithau heb flodau yn glaf
Oeroedd y wynt, cynhyfodd y mor:
    O'th ymyl diflannodd yr haf.

Y maith yr aeth yn brudd ar ei hynt,
    I weini ar gleifion sydd bell;
Dychwel cyn hir i'th lini fel cynt,
    Ond ti geir heb gur yn dy gell.

Cofir yn hir dy aberth (mor ddrud) )
    I gleifion achubwyd o'r drin
Tybed a weli aelwyd y byd
    A heddwch a'r gwan ar ei glin?
 
Wyla dy dad, a wyla dy fam
    A wyla'th gyfeillion heb drai,
Cofiwn serch hynny na chefaist gam,
    Er claddu dy Iwch yn y clai.

Wylo mae'r gwynt yn nghreigiau y bryn,
    Lle tyfaist fel lili i Dduw
"Kate wedi mynd," medd daear yn syn,
    "Daeth adref," medd y nef "i fyw."

Yr Herald Gymraeg 19/11/1918