Y DIWEDDAR BARCH. D. SINNETT JONES.
Gyda gofid dwys yr ydym yn cofnodi marwolaeth y Paroh D. Sinnett Jones, rheithor Rhiw Lleyn, yr hyn a gymerodd le yn dra sydyn dydd Iau, Ebiill 17eg, ar ôl byr ysgafn gystudd. Gwasanathai yn yr Eglwys y Sabboth blaenorol, ac ni feddyliodd neb fod y diwedd mor agos.Brodor ydoedd o Lan Onn, De Cymru. Bu'n gwasanaethu yn y Rhiw am dair blynedd a'r hugain. A gellir dweyd amdano fel am Dafydd, "wedi iddo wasanaethu ei genhedlaeth ei hun trwy ewyllys Duw, efe a hunodd."
Bu farw fel y bu fyw, yn hollol daweI a'i ymddiried yn y Ceidwad a wasanaethodd mor eiddgar ar hyd ei oes. Poenus a fuasai dihoeni yn hir, ond cofiodd Duw am ei was a galwodd ef adref megis ar darawiad amrant. Yr oedd yn un o'r dynion hynawsaf a ffyddlonaf a welwyd erioed yn ofalus iawn, ac yn ewyllysgar i gynorthwyo a gwneyd ei ran gyda phobpeth. Ni chyfyngai ei garedigrwyidd i gylch yr Eglwys yn unig. Ond ymwelai a'r claf a'r trallodus gyda'r Ymneillduwyr yn ogystal, a chyfrannai yn haelionus i'r tlawd a'r unig bob amser. "Agora ei law i'r tlawd, ac estyna ei ddwylaw i'r anghenus." Yr oedd yn ddyn llafurus ac ymroddgar iawn yn y weinidogaeth o lwyrrryd calon yn yr oll a wnelai, yn ddyn o fywyd pur a duwiol iawn a gellid dweyd am dano. "Fod ei lwybr fel y goleuni yn myned rhagddo o hyd yn fwy fwy goleu a llewyrchus hyd ganol dydd."
Dydd Mercher dilynol daearwyd y rhan farwol o hono yn Abererch, ger Pwllheli. Yn Eglwys St. Aelrhiw, am hanner awr wedi un a'r ddeg cynhaliwyd gwasanaeth, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. Lodwig Davies, Bryncroes, a W. Sylfanus Williams, Bottwnog. Yr oedd yr eglwys yn orlawn.
Yna gorymdeithiwyd ran o'r ffordd yn y drefn a ganlyn : Yr elor gerbyd y teulu; côr yr Eglwys a phlant yr Ysgol Sul y gynilleidfa. Ger croeffordd Tynyparc, man lle 'roedd y gynulleidfa yn troi yn ôl canwyd "Dan dy fendith wrth ymadael." Yn Abererch gwasanaethwyd gan y Parchn. Manley, LIanbedrog; Edwards, Pwllheli: a Jones, Abererch. Yr oedd llu o offeiriaid Lleyn ac Eifionydd yn bresennol y rhai oeddynt yn blaenori'r elor o'r Eglwys hyd Ian y bedd yn eu gwisgoedd gwynion. Gorchuddiwyd ei arch â blodeudyrch heirdd, un oddiwrth aelodau yr Ysgol Sul.
Y prif alarwyr oeddynt, Mrs Sinnett Jones,priod; Mr. Jones (nai); Miss Jones (nith); Parch a Mrs. Jones, Abererch; Parch a. Mrs Wynn Griffiths, Llanrug; Parchn. W. Pierce Owen, Pwllheli a G. Oliver Owen, Bala; Mr. R. M. Owen. Miss Owen a Mr. R. Owen Jones, Criccieth.
Cydymdeimlir a'r weddw unig yn y brofedigaeth lem a ddaeth i'w chyfarfod mor ddisymwth.