GWELLA.
Da genym ddeall fod Pte. Owen Owens, Syntur, yn gwella. Erys ar hyn o bryd ym Malta.Wele ddarnau o lythyr a dderbyniwyd oddlwrtho yn ddiweddar.
"Mae yn dda genyf gael y pleser o anfon gair bach i chwi, gan obeithio yn fawr eich bod yn iach yna i gyd. 'Rydwyf finniau wedi gwella yn dda iawn 'rwan. Cefais fy symud o'r ysbvty allan i'r gwersyll yn nghanol y wlad, (tua pedair milltir ar ddeg o'r dref. 'Roeddwn wedi meddwl y buaswn yn cael dod adref am dro cyn myned allan i'r rhyfel yn y dechreu, ond daeth galwad sydyn amdanom, a gorfod i ni fynd heb "leave" na dim. Buom yn y trenches am yn agos i bedwar mis. Y diwrnod cyntaf y glaniasom collasom tan tri chant o'n cydymladdwyr. 'Roedd y gelynion yn ein shelio pan yr oeddem yn y cychod, ond glaniasom trwy y cwbl tua saith yn y boreu. Buom heb fwyd na diod trwy y dydd, a'n dynion yn cael eu chwythu yn ddarnau gan shells. Ar rhyw fath o fynydd yr oeddym yn ymladd a'r gelynion ar y top.
Buom yn ymladd yn ffyrnig iawn am tua awr gyda'r bayonet, a'r lle wedi ei roi ar dan, ond o'r diwedd llwyddasom i yru y gelyn ychydig yn ôl. Yr oeddym yn gynddeiriog wrth weld ein cyfeillion yn cael eu lladd o' n cwmpas ond nid oeddym yn digaloni. 'Rwyf yn meddwl na fydd yn rhaid i ni fynd yn ôl i Dwrci eto. Maent wedi gorfod gadael y lle.
Daeth storm fawr pan oeddwn yno, a bu bron i ni a hoddi yn y trenches. Gwlawiodd mewn dwy awr a hanner nes 'roedd y lle yn nofio. 'Roeddym at ein hysgwyddau mewn dwfr. Bu i rai foddi hefyd. Bu raid i ni aros yn y dwfr am ddiwrnod a noson, neu roi y lle i fyny i'r gelyn. Ymhen rhyw wythnos ar ôl i mi gael fy ngyru oddiyno gorfod iddynt adael y lle, trwy fod yr ystorom yn anichonadwy i'w sefyll. 'Roedd y dwtr yn llifo i lawr o'r top ac wrth ein bod ninnau yn y gwaelod, 'roedd y dwfr yn llifo nes 'roedd ein stores lle 'roeddym yn cael ein bwyd wedi mynd gyda'r lli.
Gwelais yn y papur fod y Germans wedi bod tua Llundain yna yn gwneyd tipyn o'u hol. Credaf eu bod wedi mynd reit galed arnynt 'rwan. Mae y Germans wedi gwneyd hyny allant.
Gyda'r Turks yr oeddym yn ymladd. 'Roeddynt yn ymladd yn reit deg. Nid oeddynt yn lladd y carcharorion fath ag y Germans wedi bod yn ei wneyd. Dywedodd un o'r Turks wythym un diwrnod wedi i ni wneud yn garcharor nad oedd arnynt ddim eisiau ymladd, ond fod y Germans yn eu gorfodi hwy i wneyd. Germans sydd yn officers arnynt. Felly gwelwn fod y Turks wedi gwthio eu hunain i le pur boeth."