RHIW MARW.

Dydd Sadwrn, Mawrth 22ain. bu farw'r hen chwaer, Mrs Elizabeth Owen, neu fel y gelwid hi, "Betsan," .gweddw y diweddar William Owen, Bryntirion, wedi cyraedd yr oedran teg o 78 mlwydd.

Ni bu'n mwynhau iechyd cynefin ers amser maith, ond daeth y diwedd yn bur annisgwyliadwy. Gan nad oedd ei hiechyd yn dda symudwyd hi a'i phriod at eu perthynaau i Edeyrn, pa rai a fu'n hynod o garedig wrthynt.

Yr oedd yn aelod o Eglwys Nebo (A.), a bu'n hynod o ffvddlon yn y moddion hyd y caniataodd ei hiechyd. Ac er ei symud i Edeyrn yr oedd yn parhau yn ffyddlon gyda ei chyfraniadau at gynnal y weinidogaetlh hyd ei diwedd. Y Beibl oedd ei hoff lyfr. Darllennai lawer arno yn ei chystudd. Yr oedd ei phrofiadau yn uchel yn ei dyddiau olaf. Yr oedd yn gymeriad caredig a thawel, ac yn fawr ei pharch yn ei hen ardal.

Y dydd Iau dilynol hebryngwyd yr hyn oedd farwol ohoni i dŷ ei hir gartref ym mynwent Nebo, a rhoed hi i orwedd ym meddrod ei phriod yr hwn oedd wedi ei rhagflaenu ,ers teng mis.

Gwasanaethwyd yn yr angladd gan ei gweinidog, y Parch J. R. Evans, yr hwn a dystiolaeth uchel i'w bywyd. Canwyd ar lan ei bedd, "Bydd myrdd o ryfeddodau," yn ôl ei dymuniad.

Yr Herald Gymraeg 01/04/1919