MARW.
Drwg gennym orfod cofnodi farwolaeth Mr. John Griffith, Carreglefn yr hyn a gymerodd le ddydd Sadwrn, Mawrth 1af, yn 74 mlwydd oed.Nid oedd yn dda ei iechyd ers tair blynedd, ond ni feddyliodd neb fod y diwedd mor agos. Bu'n aelod ffyddlon a gweithgar yn Tanyfoel (M.C.) am lawer o flynyddoedd.
Yr oedd achos a phethau'r Arglwydd yn agos iawn at ei galon, ac nid oedd dim yn ormod ganddo ei wneyd i lwyddo y gwaith. Bu'n hynod o ymdrechgar gyda yr Ysgol Sabbothol, a bu'n athraw am lawer o flynyddoedd.
Yr oedd yn briod tyner, tad gofalus, a chymydog cymwynasgar.
Y dydd lau dilynol hebryngwyd yr hyn oedd farwol ohono i dy ei hir gartref ym mynwent Nebo. Daeth tyrfa fawr i'r angladd, ac hawdd gweled ei fod yn barchus iawn yng ngolwg y gymdogaeth. Gwasanaethwyd yn y tŷ ac ar lan y bedd gan y Parch J. R. Evans, Hebron. Gorchuddiwyd ei arch â blodaudyrch.
Gedy briod, pedair merch, dau fab, a. dwy chwaer, un o ba rai sydd yn yr America i alaru ar ei ôl. Estynwn ein cydymdeimlad dyfnaf a hwy yn y bwlch tywyll hwn.
Dymunwn ar i'r "Drych" gofnodi yr uchod.