RHIW LLEYN MARW.

Gyda galar y mae gennym y gorchwyl prudd o gofnodi marwolaeth Griffith Evans, Penarfynydd, yr hyn a gymerodd le foreu Mawrth, Ebrill 29ain, yn 74 mlwydd. oed. Ni chafodd ond cystudd byr a daeth y diwedd yn ddisymwth.

Yr oedd yn ffermwr ar gylch eang, ac yn hynod boblogaidd gyda phawb o'i gydnabod, fel cymeriad caredig, pur, a diabsen. Ennillai bawb a ddeuai i gyffyrddiad eg ef i'w hoffi a'i edmygu, ac i ymddiried yn llawn ynddo. Hoffid ef yn yr ardal fel cymydog caredig, a gwnai ei oreu yn ei gylch mewn gair a gweithred i'w gymydogion.

Heb os, gwelir colled ar ei ôl mewn hyd ac eglwys. Cymerai ddiddordeb mawr mewn addysg a phopeth a thuedd ynddo i ddyrchafu. Bu'n gweithredu fel cadeirydd yr hen Fwrdd Ysgol am flynyddau lawer, ac o hynny hyd ei ddiwedd bu'n gweithredu fel cadeirydd i reolwyr Ysgol y Cyngor. Yr oedd yn aelod ffyddlon gyda'r M.C. yn Tanyfoel, a bu'n arweinydd y gân am gyfnod maith. Cannodd lawer yn ystod ei fywyd. Chwith gennym feddwl na chlywir ei lais mwyach yr ochr hyn i'r bedd. Cyfrannai yn helaeth at y weinidogaeth. Yr oedd ganddo ewyllys a gallu i wneyd hynny. A'r Saboth olaf y bu fyw gofalai am y casgliad er nad allai fod yn bresennol ei hun.

Y dydd Gwener dilynol claddwyd ei weddillion yng nghladdfa'r teulu ym mynwent Eglwys St. Hywyn, Aberdaron. Anghyoedd oedd yr angladd.

Gwasanaethwyd yn y tŷ yn effeithiol iawn gan y Parch. John Hughes, Edeyrn. Canwyd un o'i hoff emynau, "O anfeidrol rym y cariad." Y prif alarwyr oeddynt Mrs. Evans (priod), Mri. Robert a Morris G. Evans (meibion), Miss Jane C. Evans (merch), Mr. Alec Evans, Newton-le-Willows (nai) Parch. David Griffith, Bethel, Arfon (cefnder). Hefyd yr oedd blaenoriaid yr eglwys yn bresennol ac amryw o'i gyfeillion a'i gymydogion. Nis gallodd ei fab ieuengaf, Lieut. Evan T. Evans, fod yn bresennol oherwydd ei fod yn yr Almaen. Gorchuddid ei arch a blodeudyrch.

Cydymdeimlwn yn y modd dyfnaf a'r teulu yn eu trallod.

Yr Herald Gymraeg 13/05/1919