MARWOLAETH A CLADDEDIGAETH.
Y mae genym y gorchwyl prudd o gofnodi marwolaeth Miss Hannah Rowlands, merch Mr Thomas Rowlands, Rhiwlas. Llesg ydoedd o ran ei hiechyd ers amryw flynyddoedd, a bu yn gorwedd am yn agos i bum mlynedd. Dioddefodd ei chystudd yn amyneddgar mewn llwyr ymostyngiad i ewyllys yr Arglwydd, a byddai bob amser yn siriol, fel pe yn ceisio cuddio ei phoen rhag tristau eraill.Cafodd bob caredigrwydd a phob gofal allai teulu eu hestyn iddi, ond yr oedd yr afiechyd wedi gafael yn rhy dyn i'w gollwng, a phrydnawn Mawrth, Rhagfyr 13eg. ehedodd ei hysbryd at yr Hwn a'i'rhoes, a hi yn 30 mlwydd oed.
Dydd Sadwrn dilynol hebryngwvd yr hyn oedd farwol ohioni i fynwent Nebo, pryd y daeth tyrfa luosog ynghyd i dalu eu teyrnged olaf o barch iddi.
Gwasanaethwyd gan Parchn J. R. Evans, Hebron, a J. Jones, Penycaerau. Anfonwyd blodeudyrch gan y rhai canlynol : Misses Catherine Rowlands, Lydia Williams, Gorphwysfa; Lizzie Rowlands, Penygroes; D. M. Jones, Trip; M. Williams., Tycroes Mawr; Nell Jones Sarn; Annie Roberts, Bryn Foulk; Maria W. Hughes, Shopnewydd; Lizzie Williamas, Talafon; Dora Williams, Tynygraig, a Mrs Jane Jones, Brynteg.