MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH.

Yn blygeiniol boreu Mawrth 15fed, bu farw Mrs. Griffith, priod y diweddar Mr. David Griffith, Llawenan, Llanfaelrhys, yn 61 mlwydd oed.

Ni fu ei chystudd ond byr.

Dydd Gwener dilynol daeth tyrfa yn nghyd i hebrwng yr hyn oedd farwol ohoni i fynwent Llanfaelrhys. Gwasanaethwyd gan y Parchn. John Jones, Penycaerau, a T. Owen, Aberdaron.

Estynwn ein cydymdeimiad llwyraf รข Miss Griffith a Mrs. Jones, ei dwy ferch, yn awr ddu eu profedigaeth.

Yr Herald Gymraeg 23/03/1915