MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH.

Mae gennym y gorchwyl prudd o gofnodi marwolaeth Mr. Griffith Jones Tynrhedyn, yr hyn a gymerodd le Medi 6ed yn 69 mlwydd oed, wedi cystudd maith a phoenus, a ddioddefodd gyda thawelwch ac amynedd Gristionogol.

Gŵr caredig, tawel ac addfwyn o ysbryd ydoedd. Dyn a hoffid gan bawb a chanddo air da i bawb. Yr oedd yn aelod ffyddlon yn Nebo (A.) ac yn ysgifennydd yr eglwys, ymha le y teimlir colled fawr ar ei ôl.

Y dydd Mawrth dilynol dodwyd yr hyn oedd farwol ohono i orwedd ym mvnwent Nebo. Gwasanaethwyd gan y Parch. J. R. Evans, y gweinidog. Anghyoedd ydoedd yr angladd. Y prif alarwyr oeddynt; Mrs. Jones (priod); Mrs, F. E. Jones, (merch); Lizzie a Lena Jones (wyrion); (Mri. Richard a David Jones (brodyr); Mr. Richard Jones (nai); Mrs. A. Jones (nith); Mr. William Williams (cefnder). Gorchuddid ei arch â blodeudyrch.

Estynwn ein cydymdeimlad a'r teulu yn eu galar a'u colled. Huned yntau bellach yn dawel hyd ganiad yr udgorn diweddaf.

Yr Herald Gymraeg 17/09/1918