MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH.

Drwg gennym orfod cofnodi marwolaeth y ddiweddar Mrs. Jane Evans, Pisgah House, yr hyn a gymerodd le Awst 29ain, yn 57 mlwydd oed ar ôl cystudd maith a ddioddefodd yn dawel.

Yr oedd yn aelod o eglwys Tanyfoel (M.C.). Y dydd Mawrth dilynol hebryngwyd yr hyn oedd farwol ohoni i fynwent St. Aelrhyw. Cafodd angladd lluosog a pharchus.

Gwasanaethwyd wrth y tŷ gan Mr. Richard Owen, Waen, ac yn yr eglwys ac ar lan y bedd gan y Parch. D. Sinnett Jones, Rheithor. Gedy ddau fab a merch i alaru ar ei hôl, a pha rai y cydymdeimlir yn fawr yn y brofedigaeth lem.

Gorchuddid ei harch a blodeudyrch.

Yr Herald Gymraeg 17/09/1918