MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH.
Foreu Llun, Mawrth y 15fed, bu farw Mr. Griffith Jones, Groeslon, wedi cyrhaedd yr oedran teg o 83 mlwydd.Bu yn ffyddlon iawn gyda'r achos yn Penycaerau am flynyddoedd.
Daeth y diwedd yn dra disymwyth. Ni chafodd ond ychydig ddyddiau o gystudd.
Claddwyd yr hyn oedd farwol ohono yn mynwent Llanifaelrhys, Mawrth. 18fed. Gwasanaethwyd yn y tŷ gan y Parch John Jones, Penycaerau, ac yn yr eglwys ac ar lan y bedd gan y Parch T. Owen, Aberdaron.