MARWOLAETH.

Dydd Iau, Ionawr yr 2il bu farw Mr. Hugh Griffith, Tynlon, ar ôl rhai mis oedd o gystudd, yn 60 mlwydd oed.

Y dydd Mawrth dilynol hebryngwyd ei ran farwol i gladdfa'r teulu ym mynwent St. Aelrhyw.

Gwasanaethwyd yn y tŷ gan Mr. Richard Owen, Waen, yn yr eglwys ac ar lan y bedd gan y Parch D. Sinnett Jones, Rheithor.

Gadawodd briod, mab a merch mewn galar am un oedd mor anwyl ganddynt. Cydymdeimlir a hwynt yn eu hiraeth. Add Llawr Dyrnu.

Yr Herald Gymraeg 14/01/1919