MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH.
Ar lawer cyfrif poenus ydyw cofnodi marwolaeth un ieuanc. Hwyrach nad oes dim yn fwy pruddglwyfus nag angladd geneth ieuanc, wiw gwadu, serch hyny, nad oes ymylon goleu i gymylau na welsom ni eu duach.Teimladau fel hyn letyai ymhob calon drwy'r ardal pan y deallwyd fod Miss Kate Griffith, Ty'nlon, wedi ymadael ar fuchedd hon. Bu yn nychu yn hir ond amlygodd amynedd a sirioldeb trwy yr oll o'i chystudd.
Tybiai y meddyg mai cynorthwy sylweddol i'w hadferiad fuasai byw gymaint allasai yn yr awyr agored. Manteisiwyd ar ei gyfarwyddyd, codwyd 'shelter' cyfaddas iddi gerllaw y tŷ, ac yma y bu yn wrthrych pob cymwynas y gallai caredigrwydd a chariad ei estyn iddi. Yn wir, pe bai gweini medrus a thynerwch gofal yn arbediad, ni buasai farw yr enethig ieuanc hon. Mae'r aberth gyfyd o serch rhiant yn anhygoel, felly yma, ond er y cwbl angau a orfu.
Yr 28ain o Chwefror gadawodd ei hysbryd y babell fregus, melys y gollyngdod wedi'r dioddef dirdynol a hi eto ond 23 oed.
Rhinwedd tlws ynddi ydoedd siarad yn barchus am eraill, felly y gwnai bob amser, adwaenai ei chydnabod wrth eu henwau priodol, ac ni ddilynai lafar gwlad na chymdogaeth wrth siarad am neb. Cafodd gyfle yn ei chystudd i sisial cyfrinion ei chalon, a gellir dweyd amdani ei bod yn dywysen lawn.
"Yn addfed iawn i'r Nef." Mawrth y 4ydd hebryngwyd yr hyn oedd farwol o honi i fynwent Sant Aelrhiw.
Gwasanaethwyd yn y tŷ gan y Parch John Jones, Penycaerau, ac yn yr Eglwys ac ar lan y bedd gan y Parch D. S. Jones, Rheithordy. Anghyhoedd oedd yr angladd.
Anfonwyd blodau-dyrch gan y rhai a ganlyn Misses L. a H. Jones, Tyddyn Meirion; Dora Jones, Trip; Nell Jones, Sarn; Dora Williams, Tynygraig; Jane Williams, Treheili; G. Evans, Laura Jones, a May Williams, Groeslon, Arfon; Mrs Jones, Brynteg; Mr a Mrs Owen Jones, Carnarvon.