MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH.
Rhagfyr 30ain, bu farw Griffith Griffiths, Meillionydd Bach yn yr oedran teg o 80 mlwydd oed. Fel dyn yr oedd yn ŵr rhyddfrydig, wyneb-agored, ac yn dangnefeddwr, parod yn ei gyfraniadau at bob achos da. Yr oedd yn aelod ffyddlon o eglwys Pisgah (W), ac yn hynod yn ei haelioni tuag at gario gwaith yr Arglwydd ymlaen.Dioddefodd ei gystudd yn dawel. Nesaodd diwedd ei daith. Yr oedd hyny yn amlwg i'w berthynasau a'i gyfeillion, ac iddo yntau hefyd. Ymnerthodd yn yr Arglwydd, ac yn nghadernid Ei allu Ef, i gyfarfod a'r amgylchiad difrifol. "Ni frysia yr hwn a gredo." Yr oedd yntau yn credu, a gwynebodd y gelyn olaf mewn tawelwch mawr, a chyda hyder a gwroldeb Cristionogol.
Y dydd lau dilynol, hebryngwyd yr hyn oedd farwol ohono i dŷ ei hir gartref ym mynwent Llanfaelrhys. Anghyhoedd oedd yr angladd.
Y prif alarwyr oeddynt Mrs. Griffiths (chwaer-yng-nghyfraith), Mr Owen Griffiths, (nai), Mr. W. Owen, Meillionydd (cefnder), Mr. W. Owen Trefaes (cefnder), ynghyd ag amryw o gyfeillion a diaconiaid ei eglwys. Gwasanaethwyd yn y tŷ gan Parch. J. H. Jones, Rhiw, yn yr eglwys, ac ar lan y bedd, gan y Parch. T. H. Owen, Aberdaron.
Yr Herald Gymraeg 16/01/1917
MARWOLAETH.
Bu farw Mr. Griffith Griffiths, Meillionydd Bach, Rhagfyr 30ain, yn yr oedran teg o 80 mlwydd oed. Yr oedd yn ŵr rhydfrydig, wyneb-agored, ac yr oedd yn aelod ffyddlon o eglwys Pisgah (W.)Yr oedd yn haelionus iawn tuag at gario gwaith yr Arglwydd ymlaen. Dioddefodd ei gystydd yn dawel. Ymnerthodd yn yr Arglwydd, a gwynebodd y gelyn olaf mewn tawelwch mawr.
Hebryngwyd ei weddillion marwol i dŷ ei hir gartref, yn mynwent Llanfaelrhys, dydd Iau, Ionawr 4ydd.
Cydymdeimlir a'r teulu yn eu trallod dwfn.