MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH.

Dydd Sadwrn, Awst 25ain, tarawyd y gymydogaeth a braw pan ddaeth y newydd trist am farwolaeth y brawd, tawel, selog, a ffyddlon, Mr. William Jones, Glwyd. Daeth y diwedd iddo'n sydyn ac annisgwyliadwy tra ar y ffordd yn cyfeirio ei gamau at y meddyg, er ei fod yn gaeth i'w gartref ers deng wythnos.

Yr oedd wedi gwasanaethu fel hwsmon yn Meillionydd Fawr am 32 o flynyddoedd, ym mha le y teimlir chwithdod nid bychan ar ei ôl. Dyn tawel, mwyn, llednais ei ysbryd ydoedd, dyn hawdd byw gydag ef, yn hollol ddidramgwydd, ac ar ei wyneb wên bob amser. Ni chlywid ef byth yn codi ei lais yn unman, na byth yn colli ei dymer. Un o ragorolion y ddaear oedd ef. Yr oedd yn flaenor ers rhai blynyddoedd yn y Tyddyn (W.), ac ni cheid nemor un cymhwysach nag ef i'r swydd bwysig honno; hefyd yn athraw yn yr Ysgol Sul.

Yr oedd yn briod tyner a thad gofalus. Yn ei farwolaeth cafodd y cartref, yr ardal, a'r egIwys yn Tyddyn golled fawr. Edmygid a pherchid ef gan bawb oherwydd unplygrwydd, gwastadrwydd, a gonestrwydd ei gymeriad. Mae'r golled i'r eglwys fechan yn Tyddyn yn un neilltuol. Hir gofir ei brofiadau melus, a'i anogaethau taerion am bawb a gafodd y fraint o ddod dan ei ddylanwad. Prydlondeb, sel angerddol, ffyddlondeb, duwioldeb, dyna'i brif rinweddau. Nid oedd Wesleaid mwy selog a theyrngarol nag ef. Pwy ddichon fesur gwerth a dylanwad dynion da fel efe a dreuliasant eu hoes i wasanaethu'r Arglwydd a'i achos mewn eglwysi bychain neulltuedig. Teimlir yn hir chwithdod mawr ar ei ôl.

Dydd Iau dilynol hebryngwyd yr hyn oedd farwol ohono i fynwent Nebo. Hawdd oedd canfod fod tywysog a gŵr mawr yn Israel wedi marw gan faint y dyrfa a ddaeth i dalu'r gymwynas olaf iddo er garwed yr hin. Gwasanaethwyd yn y tŷ ac ar lan y bedd gan y Parch J. H. Jones, Rhiw. Yr oedd ei arch wedi ei gorchuddio a blodeudyrch.

Gedy briod, dwy ferch, a mab i alaru ar ei ôl. Llifa cydymdeimlad lawer atynt yn eu profedigaeth.

Yr Herald Gymraeg 04/09/1917