MARWOLAETH A CLADDEDIGAETH.
Bore Llun, wedi cystudd blin a maith, bu farw Mr. William Griffith, Pen Nebo, wedi cyrraedd ohonno ei 78 mlwydd oed. Ni fu'n gryf ei iechyd erioed, ac yr oedd wedi cael ei gornelu ers tua phedair blynedd, ond er hynny ni chlywid ef un amser yn grwgnach. Dioddefodd y cwbl yn dawel.Meddai wybodaeth Ysgrythyddol eang. Darllenodd lawer yn ystod ei fywyd. Ei hoff lyfr ydoedd y Beibl. Yr oedd yn aelod yn Nebo (A.) a bu'n ffyddlon iawn tra y caniataodd ei iechyd, a bu'n hynod o ofalus ynghylch buddiannau'r capel.
Dydd Iau dilynol hebryngwyd yr hyn oedd farwol ohonno i Fynwent Nebo, mynwent ei henfro, ar diriogaeth ei annedd, yr hen erw rhodiodd amgylch ogylch iddi drwy gydol ei oes. Anghyoedd oedd yr angladd. Y prif alarwyr oeddynt : Mrs. Griffith (chwaer); Mrs. Williams (nith) Mri John a Tommie Williams, Mr. John Richards, Llanengan Mri. William a Thomas Richards, Ffestiniog; Richard Griffith, Llanbedrog ; a'r Athro John Griffith, B.Sc Dolgelleu.
Cydymdeimlwn a'r teulu yn eu galar a'u hiraeth. Gorchuddiwyd ei arch รข blodeu-dyrch.