MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH.

Nos Sul, Ionawr 31ain, bu farw Miss Ann Jones, Tanycapel, yn yr oedran o 46ain mlwydd, wedi dioddef afiechyd poeous am tua dwy flynedd ar hugain, ond dioddefodd y cyfan fel Cristion yn hollol dawel a dirwgnach.

Yr oedd yn amlwg ei bod yn araf nesu at y glyn ers rhai misoedd, ond ni ddychmygai neb ei bod mor agos ato.

Dydd Gwener dilynol daeth tyrta fawr ynghyd i hebrwng yr hyn oedd farwol o honi i fynwent Nebo.

Gwasanaethwyd wrth y Tŷ Capel ac ar lan y bedd gan y Parch J. R. Evans, Hebron. Gorchuddiwyd ei harch a llu o flodaudyrch. Heddwch i'w llwch hyd fore caniad yr udgorn.

Estynwn ein cydymdeimlad llwyraf a'i hanwyl fam weddw a'r teulu oll yn awr ddu eu profedigaeth.
 

Yr Udgorn 10/02/1915