MARW A CHLADD.
Drwg genym orfod cofnodi marwolaeth y brawd anwyl Mr John Parry, Bodwyddog. Digwyddodd yr amgylchiad prudd ddydd Gwener, Chwefror 1, ac efe ond 62 mlwydd oed.Nid oedd yn gryf ei iechyd ers amser maith. Ni fu'n gorwedd ond am rai dyddiau. Dilynai ei orchwyl hyd o fewn ychydig ddyddiau i ddydd ei farwolaeth.Dyn tawel, diymhongar ydoedd, dyn a chanddo air da i bawb, a chan bawb air da iddo yntau. Yr oedd yn un o'r cymydogion caredicaf. Parod bob amser i wneud yr hyn a. allo i bawb. Ni fyddai neb yn ofn anturio ato i ofyn cymwynas. Yr oedd yn un o reolwyr yr Ysgol y Cyngor. Danghosodd yr athrawon a'r plant barch mawr iddo ddydd ei angladd. Hefyd yr oedd yn aelod ffyddlon o Eglwys Pisgah (W), ac yn briod tynor a gofalus ac o bob bwlch adawodd ar ei ôl yn y cartref y mae'r mwyaf.
Ddydd Mawrth dilynol hebryngwyd yr hyn oedd farwol, ohono i fynwent Nebo. Anghyhoedd oedd yr angladd. Gwasanaeththwd gan y Parch J. H. Jones, Rhiw, a'r Parch David Griffith, (B), Arfon.
Cydymdeimlir yn fawr a'r weddw unig yn phrofedigaeth lem, hefyd a'i anwyl chwaer, Mrs Owen, Penycaerau a'i frawd Mr. Griffith Parry, yr hwn sydd yn yr America. Dymunwn ar i'r "Drych" nodi'r 'uchod.