Cynhaliwyd dydd Mercher. Gerbron Mri J. G. Jones, Maurice Jones, W. W. Griffith.
CERBYD HEB DRWYDDED.
Cyhuddai J. T. Edwards-Jones, Margaret Thomas, Tanyffordd, Rhiw, o ddefnyddio cerbyd beb drwydded.
Dywedai y ddiffynyddes ei bod yn tybio fod ganddi hawl i ddefnyddio y cerbyd at wasanaeth teuluol.
Tystiai yr Heddwas Thomas, Gara, fod tri yn y cerbyd, ac nad oedd enw arno o gwbl.
Dirwywyd hi i 15s.