DAMWAIN YM MLAENAU FFESTINIOG.
Cynhaliwyd ymchwiliad achos marwolaeth Mr. Griffith Jones, Benar View, Blaenau Ffestiniog, fu farw yn Ysbyty Oakley boreu Gwener, yn Vestry Salem (A), Rhiw, gerbron Mr. R. O. Jones, trengholydd y sir. Dewiswyd Mr. John Thomas, Greffi, yn flaenor iddynt. Yr oedd Mr. G. J. Williams, Arolygydd y Mwynfeydd yn bresenol. Hefyd, Mr. E. W. Davies, A.S., dros y Chwarelwyr, a'r Arolygydd Owen dros yr Heddlu; Mr Richard Jones, goruchwylwyr y chwarel yno dros y cwmni.Eglurodd y trengholydd i'r trancedig gyfarfod a damwain yn chwarel Oakley ar Mai 26, ac iddo gael ei gyrchu i'r ysbyty, lle y bu farw foreu Gwener.
Y tyst cyntaf alwyd oedd Mr. John Williams, brawd yng nghyfraith i'r trancedig. Tystiodd iddo gyfarfod a damwainfel y nodwyd. Yr oedd y trancedig yn 63 mlwydd oed.
Tystiodd Mr. R. Evan Jones, Glanypwll Road ei fod yn gweithio yn yr un fan a'r diweddar Griffith Jones, ac iddo gwrdd a damwain tua dau o'r gloch yn y prydnawn. Galwyd y meddyg yn uniongyrchol.
Dywedodd Mr. Robert William Jones, Llan Ffestiniog, ei fod yn bartner a'r trancedig ac yr oedd o fewn dwy lath iddo pan ddigwyddodd y ddamwain. Ni chlywodd ddim yn disgyn, a methwyd a gweled dim, ond yr oedd yn amlwg mai carreg deneu ddaeth i lawr gan daro y trancedig yn ei ben. Yr oedd ef yn tyllu gyda machine a'r trancedig wedi gorphen tyllu ac yn eistedd wrth ei ymyl. Dywedodd wrtho fod rhywbeth wedi ei daraw. Aeth ato ar unwaith, a gwelodd ei fod yn gwaedu yn arw.
Mewn atebiad i'r arolygydd dywedodd fod ymchiliad manwl wedi ei wneyd yn ddiweddar ar y lle.
Gofynodd Mr. Ellis Davies a oedd yn meddwl fod rhyw Ddyofalwch ar ran rywun.
Dywedodd y tyst nad oedd o gwbl, gan ei fod yn debyg y gallasai carreg finiog felly gael ei thaflu i fyny wrth saethu, a sefyll ar stepiau, ar ochr y piler, ac i rywbeth ei chynhyrfu nes syrthio, ac i hono ei daraw.
Tystiodd Dr. Carreg Evans, iddo gael ei alw at y trancedig ddiwrnod y ddamwain, a bu ef a Dr. Vaughan Roberts. Yr oedd wedi derbyn niweidiau difrifol i'w ben, a bu i hyny achosi ei farwolaeth.
Barnwyd yn unfarn, iddo farw fel canlyniad i'r ddamwain gyfarfyddodd yn y chwarel.
Ar gynigiad blaenor y rheithwyr, pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a'r teulu yn eu profedigaeth.