LLANARMON - PRIODAS.
Ar yr eilfed o Ragfyr priodwyd yn Eglwys y Plwyf uchod Mr. Moses Jones, Pen Palmant, Nevin, a Miss Elinor Jones, ail ferch Mr. Robert Jones, Garnedd, gan yr hwn y rhoddwyd y briodasferch.Y morwynion priodas oedd Mrs. Jones, Bodegroes, Pwllheli; Miss Kate Jones, Garnedd (chwiorydd y briodasferch); Mrs. E. Thomas. St. Tudwal's View, Pwllheli, a Mrs. E. D. Jones, Alastare, Nevin (chwiorydd y priodfab); a'r gweision priodas oeddynt Mr. G. R. Jones, Garnedd, a Mr. R. Jones, Bodegroes (brawd a brawd-yn-nghyfraith y briodasferch).
Bu y briodasferch ieuanc yn un o aelodau ffyddlonaf yr Eglwys yn Llanarmon, ac un o'r aelodau cysonaf yn y gwasanaethau bob amser. Nid oedd drai ar ei llafur dros yr Eglwys, a bu ei hysgwydd dan y gwaith yn ddi-flino. Cofir fel y gweithiodd, a hyny mor llwyddianus, gyda'r deisebau, ar ran yr Eglwys. Nis gallai neb fod yn fwy llafurus nag y bu hi er pan yr oedd yn blentyn, a hyny bob amser yn llawen. Ac nid aeth neb i'r cwlwm priodasol gyda gwell dymuniadau na hyhi.
Ar derfyn y gwasanaeth estynwyd yr englyn byr-fyfyr hwn o waith Mr. David Davies, Ty'ngors, a'i cyfansoddodd tra yr oedd y gwasanaeth yn myned ymlaen, a rhoddir ef yma -
Moses, ŵr enwog moesol - a'r fodrwy
Aur fedrus arwyddol;
Elinor dda a leinw'r ddôl
Gron, addas wraig rinweddol.
Gohebydd.